Teithwyr ar faes parcio ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Brenhinol Gwent

Mae meddygon a staff Ysbyty Brenhinol Gwent wedi methu mynd i mewn i faes parcio'r adeilad wedi i deithwyr symud i mewn yno.

Daeth 14 o garafanau o Ffrainc a'r Almaen i'r maes parcio i staff yng Nghasnewydd.

Dywedodd llefarydd ar ran yr ysbyty, Julian Hayman, y byddai'r maes parcio ar gau i staff am dri diwrnod wedi i'r teithwyr ddweud wrth yr ysbyty y byddan nhw'n "symud ymlaen yn fuan".

Ychwanegodd Mr Hayman y byddai'n rhaid i staff wneud trefniadau eraill tan i'r carfanau symud.

Dywedodd un aelod o'r 3,400 o staff yr ysbyty, sydd â 750 o welyau:

"Mae cael lle i barcio yn ddigon anodd fel arfer heb y math yma o beth yn digwydd.

"Mae'n fy nghynddeiriogi bod sefyllfa fel hyn yn gallu parhau tan fod y teuluoedd eu hunain yn penderfynu symud ymlaen.

"Mae yma feddygon a staff meddygol arall yn gweithio ar achosion brys 24 awr y dydd, ac maen nhw'n gorfod parcio ymhell i ffwrdd oherwydd bod criw bychan o deithwyr wedi llygadu'r lle fel gwersyll."

Dywedodd Cyngor Casnewydd eu bod wedi dechrau ymgynghoriad ar greu safle parhaol i Sipsiwn a theithwyr fis diwethaf fel rhan o'r cynllun datblygu lleol.

Bydd fersiwn terfynol y cynllun yn mynd gerbron y cyngor llawn yn ddiweddarach eleni cyn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol