Pryder am ddwy ferch ar goll

  • Cyhoeddwyd
Heddlu Gwent

Mae'r heddlu yn chwilio am ddwy ferch sydd ar goll o'r un ardal ar yr un diwrnod er nad oes cysylltiad amlwg rhwng eu diflaniad.

Cynyddu mae'r pryder am Shannon Bladen a Jessica Brant sydd wedi bod ar goll o ardal Alway yng Nghasnewydd ers dydd Mercher.

Dywed Heddlu Gwent nad oes tystiolaeth i awgrymu bod cysylltiad rhwng y ddau achos, ond dydyn nhw ddim yn diystyru hynny chwaith.

Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu Gwent: "Yn amlwg maen nhw wedi bod ar goll ers rai dyddiau bellach, a chynyddu mae'r pryder am eu lles."

Cafodd Shannon Bladen, 14 oed, ei gweld ddiwethaf am 7:55am fore Mercher pan adawodd ei chartref i ddal y bws i'r ysgol. Mae'n 5'1" o daldra gyda chorff tenau a gwallt at ei hysgwyddau wedi'i liwio'n ddu.

Roedd yn gwisgo gwisg Ysgol Uwchradd Casnewydd o drowsus a chrys polo du gydag ysgwyddau melyn, siwmper lwyd a siaced denim. Roedd yn cario bag Betty Boo coch a gwyn.

Aeth Jessica Brant, 13 oed, ar goll tua 3:30pm ar yr un diwrnod. Mae'n 5'3" o daldra gyda chorff cymedrol gyda gwallt at ei hysgwyddau wedi'i liwio'n ddu ac wedi ei glymu mewn cynffon merlen.

Roedd yn gwisgo leggins a siaced khaki.

Mae'r heddlu yn awyddus i gael unrhyw wybodaeth am y ddwy ferch, ac yn apelio ar bobl all fod o gymorth i'r ymchwiliad i ffonio Heddlu Gwent ar 101.