Mike Phillips yn wynebu honiadau o gamymddwyn
- Cyhoeddwyd

Cafodd Mike Phillips ei wahardd dros dro gan Bayonne y llynedd am gamymddwyn oddi ar y cae
Bydd mewnwr Cymru, Mike Phillips, yn mynd o flaen bwrdd cyfarwyddwyr clwb rygbi Bayonne ddydd Mawrth, ar ôl honiadau iddo fynychu sesiwn dadansoddi fideo dan ddylanwad alcohol.
Mae'r digwyddiad honedig yn ymwneud â sesiwn hyfforddi ar y bore wedi i'r clwb o Ffrainc ennill eu gêm agoriadol yn erbyn Grenoble yng Nghwpan Amlin ar Hydref 10.
Bydd Phillips ymhlith nifer o chwaraewyr a fydd yn mynd o flaen y bwrdd i roi tystiolaeth.
Cafodd rhif naw Cymru ei wahardd dros dro gan Bayonne y llynedd am gamymddwyn oddi ar y cae.
Fe allai wynebu dirwy ariannol sylweddol os bydd y clwb yn ei gael yn euog y tro hwn.
Straeon perthnasol
- 8 Gorffennaf 2013
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol