'Pobl leol ddylai benderfynu'

Dafydd Elis-Thomas
Image caption Mae Dafydd Elis-Thomas yn credu mai pobl leol ddylai wneud penderfyniadau am dyrbinau gwynt

Mae'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn dweud na ddylai mewnfudwyr sy'n symud i Gymru geisio atal datblygiadau tyrbinau gwynt gan bobl leol.

Ond mae Sian Parri, sy'n aelod o Gyfeillion Llŷn, yn credu bod gan y tyrbinau'r potensial i "ddinistrio'r" penrhyn wrth ddifetha'r golygfeydd.

Mae trigolion Penrhyn Llŷn yn anghytuno'n chwyrn ynglŷn â pha fath o ddyfodol sydd i dyrbinau gwynt yno.

Bydd pennod arbennig o Taro 9 nos Fawrth yn ystyried dwy ochr y ddadl

Prosiect cymunedol

Bydd y rhaglen yn ymweld ag arweinydd cynllun ynni yn Llanaelhaearn sy'n honni y gallai'r gymuned leol weld budd mawr o'r prosiect.

Dr Carl Clowes yw cadeirydd Antur Ynni Aelhaearn - cwmni cydweithredol sy'n ystyried y posibilrwydd o godi tyrbinau gwynt er mwyn buddsoddi'r arian yn ôl yn y gymuned.

Amcan y cynllun fyddai trawsnewid hen gapel yn feithrinfa a chanolfan gymunedol.

"Mae pobl yn pryderu at ei gilydd am eu bod nhw'n pryderu am yr effaith weledol ar yr ardal, ardal hanesyddol, tirwedd fendigedig sydd gennym ni," meddai Dr Clowes.

"Ond i mi - a dwi'n deud hyn wrth gyfeillion, Cyfeillion Llŷn, cyfeillion eraill yn yr ardal sy'n gwrthwynebu o ran yr effaith ar y tirwedd - mae'r amgylchedd llawer iawn yn fwy na'r amgylchedd ffisegol.

"Mi fydda fo'n fuddugoliaeth beryg iawn tase ni'n cadw'r tirwedd yma yn union fel mae o am byth."

Ond dyw Sian Parri ddim yn cytuno.

'Ein Tryweryn ni'

Dywedodd Ms Parri: "Hwn ydi ein Tryweryn ni medda' nhw - ac yn sicr does yna ddim golygfa dristach i mi yn hanes Cymru na'r criw bach o bobl yn rhedeg i lawr y llethr ar ôl i Cwm Celyn gael ei foddi.

"Trist iawn fydd dod i Lŷn hefyd dipyn o flynyddoedd o rwan a'r lle wedi ei ddinistrio a'r golygfeydd wedi eu difetha'."

Cafodd y gymdeithas ei sefydlu gan RS Thomas a'r nod yw "gwarchod a chryfhau'r Gymraeg yn Llŷn, gwarchod buddiannau a hybu economi Llŷn a gwarchod yr amgylchedd yn Llŷn".

Mae'r Aelod Cynulliad sy'n cynrychioli'r ardal yn anghytuno gyda safbwynt Cyfeillion Llŷn.

'Difrifol iawn'

Yn ôl Dafydd Elis-Thomas, sy'n cadeirio'r Pwyllgor Amgylchedd yn y Cynulliad, mae angen gweld tyrbinau gwynt fel cyfle.

A dydi o ddim yn fodlon clywed mewnfudwyr yn cwyno pan mae pobl leol yn penderfynu eu codi.

"Dwi wedi dweud 'mod i wedi sylwi bod yna lawer o bobl sydd wedi symud i mewn i Gymru sydd yn mynegi barn yn gryf yn ceisio rhwystro Cymru rhag datblygu adnoddau naturiol a dwi'n meddwl fod hwnna yn beth difrifol iawn,"meddai.

"Oherwydd os ydi pobl yn symud i fyw i ardal mae'n rhaid iddyn nhw ddysgu cydweithio efo pobl yr ardal yna ac mae economi'r ardal yma yn allweddol o bwysig i bob un ohonom ni."

Bydd rhaglen Taro 9 yn cael ei dangos ar S4C am 9.30yh ddydd Mawrth.

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC