Darlledu: 'Dim digon o amrywiaeth'
- Cyhoeddwyd

Nid oes digon o amrywiaeth o fewn darlledu yng Nghymru ers i'r BBC fod yn gyfrifol am ariannu S4C, yn ol AS y Rhondda.
Dywedodd Chris Bryant hefyd ei fod yn poeni nad oes neb yn craffu ar lywodraeth leol rhagor oherwydd y "diffyg lleisiau yn y farchnad".
Roedd yn siarad yn ystod dadl ar ddyfodol y BBC yn Nhŷ'r Cyffredin oedd wedi ei sicrhau gan AS Cymreig arall, Alun Cairns.
Hefyd yn ystod y ddadl dywedodd cyn ysgrifennydd gwladol Cymru y byddai gadael i'r Cynulliad graffu ar waith y BBC Cymru yn "beryglus iawn".
'Pryder real'
Mewn ymateb i araith Mr Cairns, dywedodd Mr Bryant: "Mae'n bryder real i mi yng Nghymru nad oes digon o amrywiaeth ers i S4C gael ei ariannu gan y BBC, nad oes digon o leisiau gwahanol i'w clywed o fewn darlledu Cymreig.
"Roedd y Rhondda Leader yn arfer bod yn bapur poblogaidd ond bellach does neb yn ei brynu, ac nid bai y BBC (online) yw hyn, ond y ffaith bod neb yn prynu papurau newydd bellach.
"Mae llywodraeth leol mwy neu lai heb ei graffu nawr, dyna pam mae mor bwysig cael amrywiaeth o leisiau yn y farchnad.
"Rwy'n falch iawn bod ITV yng Nghymru wedi penderfynu peidio symud eu newyddion a materion cyfoes."
'Adnodd cenedlaethol y DU'
Yn gynharach yn y ddadl roedd AS Plaid Cymru Jonathan Edwards wedi gofyn i Mr Cairns os oedd o'n cytuno gyda'r hyn ddywedodd Andrew RT Davies yr wythnos diwethaf.
Roedd arweinydd y grŵp Ceidwadol yn y Cynulliad wedi dweud ei fod eisiau gweld BBC Cymru Wales yn atebol i'r Cynulliad.
"Dydw i ddim yn credu y dylai darlledu gael ei ddatganoli," meddai Mr Cairns.
Yna cododd Cheryl Gillan ar ei thraed a dywedodd: "Adnodd cenedlaethol y Deyrnas Unedig yw'r BBC a'r tŷ hwn yn unig ddylai graffu arno, nid gweinyddiaethau eraill o'r DU sy'n ceisio ei hawlio."
Savile
Roedd y rhannau o'r drafodaeth oedd yn delio gyda'r BBC yn gyffredinol yn canolbwyntio fwyaf ar ei atebolrwydd, ffi'r drwydded a'r digwyddiadau yn ymwneud a Jimmy Savile ddaeth i'r amlwg y flwyddyn ddiwethaf.
Dywedodd Mr Cairns ei fod yn awyddus i weld y gorfforaeth yn dod yn "fwy tryloyw ac yn fwy parod i dderbyn beirniadaeth".
Yn ogystal dywedodd y dylai fod yn fwy parod i sgriwtineiddio ei hun ar adegau, yn enwedig o ystyried faint o arian mae'n derbyn yn flynyddol.
Dywedodd y Fonesig Tessa Jowell, oedd yn siarad ar ran y Blaid Lafur, ei bod hi o blaid troi Ymddiriedolaeth y BBC yn sefydliad cydfuddiannol.
Yn ôl Ms Jowell byddai hynny'n sicrhau "perchnogaeth gyhoeddus go iawn".
Straeon perthnasol
- 17 Hydref 2013
- 22 Mehefin 2013
- 13 Mehefin 2013
- 19 Rhagfyr 2012
- 29 Hydref 2012
- 19 Hydref 2010