Cyhuddiadau Facebook: Cadw yn y ddalfa
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Gaerdydd sydd wedi ei gyhuddo o osod cyfres o gyhoeddiadau terfysgol ar wefan Facebook wedi ymddangos yn Llys yr Old Bailey yn Llundain.
Cafodd Khuram Shazad Iqbal, 20 oed, ei gyhuddo o gyhoeddi'r deunydd rhwng Ionawr 1 a Medi 16 eleni, ac fe honnir iddo gael 10 copi o gylchgrawn Al Qaeda - Inspire - ar ei gyfrifiadur pan gafodd ei arestio ym mis Hydref.
Ymddangosodd gerbron y llys ar gyswllt fideo ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.
Mae'n wynebu cyhuddiadau'n ymwneud â throseddau o gyhoeddi deunydd allai annog terfysgaeth ac o fod â chofnod sy'n cynnwys gwybodaeth fyddai'n ddefnyddiol i derfysgwyr.
Honnir i Mr Iqbal ddarparu gwasanaeth i eraill dderbyn, darllen, gwrando neu wylio cyhoeddiadau terfysgol ar dudalen Facebook.
Honnir hefyd bod y ffeiliau o dan yr enw Abu Irhaab ar werth fel rhoddion neu fenthyciadau.
Cafodd yr achos ei ohirio gan y barnwr Mr Ustus Sweeney tan Chwefror 17 y flwyddyn nesaf pan y bydd gwrandawiad i'r diffynnydd bledio, gyda'r achos wedyn yn cael ei gynnal ym mis Mawrth.