Radford fydd hyfforddwr Morgannwg
- Cyhoeddwyd

Mae Morgannwg wedi cyhoeddi mai Toby Radford fydd eu prif hyfforddwr newydd.
Cafodd Radford ei eni yng Nghaerffili a gwnaeth ei enw ym myd criced fel batiwr i Middlesex a Sussex.
Bydd yn ymuno â Morgannwg o dîm criced cenedlaethol India'r Gorllewin lle mae wedi bod yn gweithio fel hyfforddwr sy'n arbenigo mewn batio.
Mae Radford wedi cael llwyddiant fel hyfforddwr yn y gorffennol - fe enillodd Cwpan T20 yn 2008 gyda Middlesex.
Dywedodd Hugh Morris, fydd ei hun yn cychwyn swydd fel gyda Morgannwg yn y flwyddyn newydd fel eu prif weithredwr: "'Rwyf wrth fy modd bod Toby Radford wedi cytuno i ymuno â Chlwb Criced Sir Morgannwg fel ein prif hyfforddwr newydd.
"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Toby wedi adeiladu ei enw da fel un o'r hyfforddwyr ifanc mwyaf talentog yng Nghymru a Lloegr, a bydd ei brofiad o reoli a datblygu cricedwyr o'r radd flaenaf yn gaffaeliad mawr i'n clwb.
"Mae'n Gymro balch ac yn edrych ymlaen at weithio gyda'n chwaraewyr presennol a meithrin talent lleol ar gyfer y dyfodol."
Dywedodd Toby Radford: "Mae'n anrhydedd cael cynnig y swydd hon ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r prif weithredwr a'r cyfarwyddwr criced Hugh Morris, a'r staff sy'n chwarae ac yn hyfforddi Morgannwg i ddod â llwyddiant yn ôl i'r sir roeddwn yn gefnogi pan yn ifanc.
"Roedd yn wych gweld y tîm yn cyrraedd rownd derfynol yn Lord's ar ddiwedd y tymor, ac yr wyf yn credu bod gennym gyfle gwych i adeiladu ar y llwyddiant hwn a datblygu tîm y gall Cymru fod yn falch ohono."
Straeon perthnasol
- 20 Awst 2013
- 21 Medi 2013