Cyhuddo pedwar o ddynladdiad ym Mhont-y-pŵl
- Cyhoeddwyd

Bu farw John Reeder ar Awst 7
Mae pedwar o bobl wedi cael eu cyhuddo o ddynladdiad mewn cysylltiad â marwolaeth dyn ym Mhont-y-pŵl ym mis Awst.
Bu farw John Reeder, 63, o anafiadau i'w ben yn dilyn digwyddiad tra roedd o ar ei feic ar Stryd George ym Mhontnewynydd, Torfaen, ar Awst 7.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent ond bu farw yno o'i anafiadau.
Mae disgwyl i'r pedwar - tri dyn 18,19 a 23 oed, a dynes 18 oed - sy'n hannu o Bont-y-pŵl, ymddangos o flaen ynadon Casnewydd yn ystod bore dydd Mawrth.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol