Llawdriniaeth i Matthew Rees
- Published
Mae bachwr Cymru a'r Gleision Matthew Rees yn wynebu cyfnod hir allan o rygbi gan ei fod angen llawdriniaeth.
Mae cyn gapten Cymru, sy'n 32 oed, wedi ennill 58 cap i Gymru ac wedi chwarae ar daith y Llewod i Dde Affrica yn 2009, ac ef yw capten presennol y Gleision.
Arweiniodd y Gleision at fuddugoliaeth dros bencampwyr Ewrop Toulon dri diwrnod yn ôl, ond mewn datganiad fore Mawrth dywedodd llefarydd ar ran y Gleision:
"Bydd capten y clwb Matthew Rees yn cael cyfnod hir i ffwrdd o rygbi.
"Ymunodd â'r rhanbarth o'r Scarlets yn yr haf, a bydd yn methu'r daith i Ulster bos Wener er mwyn cael llawdriniaeth i'r ceilliau.
"Hoffai'r Gleision fanteisio ar y cyfle i ddymuno gwellhad buan i Matthew, ac rydym yn edrych ymlaen at ei weld yn chwarae eto yn y dyfodol.
"Ni fydd y rhanbarth yn gwneud sylw pellach, a byddwn yn gofyn i'r cyfryngau barchu preifatrwydd Matthew yn y cyfnod yma."
Fe fyddai disgwyl gweld enw Rees yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau'r hydref a fydd yn cael ei chyhoeddi'n ddiweddarach ddydd Mawrth.
Er mai Richard Hibbard yw'r dewis cyntaf fel bachwr bellach, mae Rees wedi bod yn rhan bwysig o garfannau Warren Gatland yn ei gyfnod fel hyfforddwr.
Dechreuodd Rees ei yrfa gyda Phontypridd cyn ymuno gyda'r Rhyfelwyr Celtaidd pan ddechreuodd y system ranbarthol.
Aeth ymlaen i wneud dros 170 o ymddangosiadau i'r Scarlets cyn ei drosglwyddiad i'r Gleision yn gynharach eleni.
Straeon perthnasol
- Published
- 25 Ionawr 2013