Ar goll: Canfod dwy ferch yn ddiogel

Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu oedd yn chwilio am ddwy ferch o ardal Casnewydd a ddiflannodd ar yr un diwrnod wedi dod o hyd i'r ddwy.

Roedd pryder yn cynyddu am Shannon Bladen, 14 oed a Jessica Brant, 13 oed, o ardal Alway o'r ddinas.

Mi apeliodd Heddlu Gwent am wybodaeth gan y cyhoedd ddydd Llun wedi i'r ddwy fynd ar goll o fewn oriau i'w gilydd ddydd Mercher diwethaf.

Ond fore Mawrth cyhoeddodd yr heddlu ddatganiad arall i ddweud bod y ddwy wedi eu canfod yn iach ac yn ddiogel.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol