Galw ar wirfoddolwyr i gofnodi enwau lleoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae gwefan newydd wedi ei chyhoeddi a fydd yn manteisio ar wybodaeth gwirfoddolwyr i gofnodi enwau lleoedd Cymru.

Bydd Cymru1900Wales.org yn cofnodi enwau lleoedd fel yr oeddent yn ymddangos ar Fapiau Ordnans ar ddiwedd y cyfnod Fictoraidd.

Ar y wefan gofynnir i wirfoddolwyr astudio mapiau hanesyddol Cymru a gyhoeddwyd gan yr Arolwg Ordnans rhwng 1899 a 1908.

Bydd angen cofnodi lleoliad yr holl destun a ddangosir ar y mapiau, gan gynnwys enwau coedydd, ffermydd, afonydd, nentydd a phlastai.

Mae elfen gystadleuol i'r broses oherwydd po fwyaf o enwau lleoedd a gofnodir gan wirfoddolwr, yr uchaf fydd eu safle yn y Siart Cyfranwyr.

Meddai Dr David Parsons, Uwch Gymrawd Prosiect Enwau Lleoedd ym Mhrifysgol Cymru: "Rydym yn gobeithio defnyddio gwybodaeth gwirfoddolwyr ar-lein i gael ffurfiau hanesyddol enwau lleoedd, a chael gwybod hefyd am amrywiadau modern neu enwau eraill sy'n cael eu defnyddio'n lleol.

"Nid oes meddalwedd sy'n gallu casglu'r wybodaeth hon yn awtomatig, felly mae gwir angen i bobl fynd ar-lein, cofrestru a'n helpu."

Ychwanegodd Tom Pert, Rheolwr Datblygu Ar-lein yng Nghomisiwn Brenhinol Henebion Cymru: "Mae hwn yn gyfle gwych i ni gasglu llawer iawn o wybodaeth yn gyflym iawn.

"Trwy'r broses hon bydd lleoliad pob melin, carreg filltir, efail a doc yn cael eu cofnodi a'u defnyddio i hybu Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

"Bydd pob gwirfoddolwr yn ein helpu i gwblhau cofnod cyflawn o dirwedd ddiwylliannol Cymru ar ddiwedd y cyfnod Fictoraidd."

Datblygwyd y wefan ar y cyd gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru a Chasgliad y Werin Cymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol