Stuart Williams, o glwb Pontypridd, wedi marw yn 33 oed

  • Cyhoeddwyd
Stuart WilliamsFfynhonnell y llun, Pontypridd RFC
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Stuart Williams yn gweithio yn chwarel Craig yr Hesg ym Mhontypridd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i chwaraewr rygbi o dde Cymru a fu farw'n sydyn yn 33 mlwydd oed.

Roedd Stuart Williams yn chwarae i Glwb Rygbi Pontypridd.

Cafodd y tad i ddau o blant ei daro'n wael tra wrth ei waith yn chwarel Craig yr Hesg, Pontypridd, ddydd Llun a bu farw'n ddiweddarach.

Mae cyfarwyddwr cyllid y clwb rygbi, Peter Howells, wedi ei disgrifio'r prop fel "dyn gwych ar y cae", a oedd yn ymddangos yn iach yn y dyddiau cyn ei farwolaeth.

Roedd Mr Williams, o bentre' Glyncoch, yn briod â Vicky Williams, a chanddynt ddau o blant ifanc, Harvey a Megan.

Yn ôl y clwb, roedd Mr Williams yn "bresenoldeb corfforol amlwg" yn y rheng flaen, ac yn berson "poblogaidd a ffyddlon".

"Roeddwn i gydag e nos Sadwrn, doedd e ddim yn sâl. Does dim geiriau i ddisgrifio'r peth," meddai Mr Howells.

Dywedodd y clwb fod y newyddion am y farwolaeth wedi bod yn "sioc ofnadwy" a bod eu meddyliau nawr gyda theulu ifanc Mr Williams.

Roedd Mr Williams wedi cynrychioli ei glwb lleol ar lefel ieuenctid, cyn symud i Bontypridd.

Ymunodd â chlwb Rhymni yn 2000.

Yn dilyn cyfnod gyda Chilfynydd, ymunodd Williams â charfan hŷn Pontypridd, gan chwarae yn rheolaidd iddynt.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol