Rhybudd i gymryd gofal ar y mynyddoedd

  • Cyhoeddwyd
Timau Achub MynyddFfynhonnell y llun, North wales police
Disgrifiad o’r llun,
Mae timau achub mynydd wedi cael eu galw allan yn ddiweddar oherwydd ei bod yn tywyllu'n gynt

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi rhybudd i bobl sydd am fentro i'r mynyddoedd dros yr wythnosau nesaf.

Wrth i wyliau hanner tymor nesáu, mae cynllun Mynydda Diogel yn atgoffa cerddwyr i gymryd gofal yn dilyn cyfnod o ddamweiniau yn ddiweddar.

Fe fydd y clociau'n mynd yn ôl awr ar ddydd Sul, Hydref 27, ond mae'r rhybudd yn nodi bod y dyddiau eisoes wedi byrhau a bod angen cario golau bob tro.

'Tywyllu'n gynharach'

Yn ôl Dewi Davies, Uwch Warden y Parc Cenedlaethol: "Diffyg paratoi yw'r rheswm am y rhan fwyaf o alwadau i dimau achub yr adeg hon o'r flwyddyn.

"Dydy cerddwyr ddim wedi ystyried hyd eu taith cyn cychwyn a heb ystyried ei bod hi'n tywyllu'n gynharach o lawer y dyddiau hyn.

"Does ganddyn nhw ddim fflach lamp neu dydy eu fflach lamp ddim yn gweithio a dydy dibynnu ar ffôn symudol ddim yn syniad call chwaith."

Cyn mentro i'r mynyddoedd dros yr wythnosau nesaf, mae gan Mynydda Diogel bum neges bwysig i gerddwyr:

  • Paratowch yn ofalus - mynnwch fod gennych yr offer cywir. Bydd angen map a chwmpawd, bwyd a diod, chwiban, cymorth cyntaf a ffôn symudol â batri llawn a chofiwch fflach lamp a batris i honno;
  • Cynlluniwch eich taith - cyn dechrau, byddwch angen gwybod i ble fyddwch chi'n mynd. Ceisiwch ddarganfod pa mor hir ddylai'r daith gymryd i'w cherdded a phryd mae hi'n tywyllu;
  • Edrychwch ar ragolygon tywydd mynydd lleol cyn i chi ddechrau ar eich taith a byddwch yn barod i droi yn ôl os yw'r tywydd yn gwaethygu;
  • Gwisgwch yn addas. Bydd angen esgidiau cerdded cryf arnoch, sawl haen o ddillad gan gynnwys rhai cynnes, menig, het, a siaced a throwsus sy'n dal dŵr;
  • Byddwch yn ymwybodol o'ch gallu - er bod modd mwynhau cerdded yn y mynyddoedd, gall fod yn waith caled, hyd yn oed ar ddiwrnod braf o Hydref. Byddwch yn ymwybodol o'r hyn yr ydych am ei wneud a chynlluniwch eich taith yn ôl ffitrwydd a phrofiad y grŵp, nid fel unigolyn.

Mae partneriaeth Mynydda Diogel yn cynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Heddlu Gogledd Cymru, Cymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru, Tîm Achub Mynydd Llanberis, Cyngor Mynydda Prydeinig, Plas y Brenin (y Ganolfan Fynydd Genedlaethol), Sgwadron 22 yr Awyrlu Brenhinol a Hyfforddiant Arweinydd mynydd Cymru.