Heddlu'n apelio am fenyw ar goll
- Cyhoeddwyd

Does neb wedi gweld Sally Baker ers dydd Sul
Mae Heddlu'r Gogledd wedi apelio am wybodaeth am fenyw o ardal Bangor sydd ar goll ers y penwythnos.
Cafodd Sally Baker, 50 oed, ei gweld ddiwethaf yn Ysbyty Maelor Wrecsam ddydd Sul, Hydref 20.
Cafodd ei disgrifio fel menyw 5'6" o daldra ac o gorff cymedrol gyda gwallt byr wedi ei liwio'n goch, ond dywed yr heddlu ei bod yn lliwio'i gwallt yn gyson.
Mae pryder yn cynyddu am ei lles, ac mae'r heddlu wedi gofyn i Ms Baker gysylltu â nhw i ddweud os yw'n ddiogel.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am Ms Baker ffonio'r heddlu ar 101.