Heddlu'n apelio wedi ymosodiad rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn Abertawe yn ymchwilio i ymosodiad rhyw difrifol a ddigwyddodd tua hanner nos ar nos Sul Hydref 20.
Digwyddodd yr ymosodiad ar fenyw 18 oed yn yr ardal tu ôl i Stryd y Gwynt ar y Strand ger y gyffordd â Pharêd y Cei.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Dave Hough: "Yn gwbl ddealladwy mae'r ddioddefwraig mewn cyflwr gofidus iawn wedi'r digwyddiad ac mae swyddogion arbenigol yn cynnig cefnogaeth iddi.
"Rydym yn apelio ar unrhyw un oedd yn yr ardal ar y pryd neu sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i swyddogion yn yr ymchwiliad i ddod ymlaen.
"Yn benodol rydym yn chwilio am ddyn gwyn tua 21 oed, 5'10" o daldra gyda chorff cymhedrol a gwallt byr a oedd gyda'r ddioddefwraig cyn yr ymosodiad."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu CID Abertawe - Tîm Sapphire - ar 101, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111 gan nodi'r cyfeirnod 62130331421.