O Bowys i Boston
- Cyhoeddwyd

Nos Fercher mae tîm pêl-fâs y Boston Red Sox yn chwarae'r gêm gyntaf yn y World Series 2013, uchafbwynt y gamp yn America.
Oherwydd digwyddiadau Ebrill 15, pan osodwyd bom ger llinell derfyn marathon Boston, mae'r digwyddiad yn un emosiynol i bobl y ddinas.
Ond mae un gornel fach o Gymru yn gwylio gyda diddordeb oherwydd cyfraniad un o'i thrigolion.
Cafodd Edward Morgan Lewis neu Ted Lewis ei eni ym Machynlleth Ddydd Nadolig 1872.
Pan oedd yn wyth oed ymfudodd ei deulu i America a dechrau bywyd newydd yn Utica yn nhalaith Efrog Newydd.
Daeth Ted Lewis i fod yn un o fawrion pêl-fâs ym mlynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac un o'r chwaraewyr proffesiynol cyntaf tîm y Boston Beaneaters.
Oriel anfarwolion
Pan sefydlwyd y National League yn 1901 roedd yn un o sefydlwyr a chwaraewyr cyntaf y Boston Americans drodd yn Boston Red Sox.
Ted Lewis oedd y "pitcher" neu'r bowliwr cyntaf i beidio ag ildio rhediad mewn gêm yn y gynghrair newydd ac mae ei enw yn oriel anfarwolion y Red Sox yn Fenway Park.
Mae ei enw ar gofeb ar wal y tŷ lle cafodd ei eni ym Machynlleth ac yn gynharach eleni daeth un o'i ddisgynyddion i Bowys i weld y gofeb ac i helpu awdur llyfr am hanes y dref.
Yn ystod ei ymweliad dywedodd Billy Lyons ei fod yn cofio clywed hanesion ei nain am '"Ewythr Ted" ac yn ei chofio hi hefyd yn adrodd gweddi'r Arglwydd yn Gymraeg iddo.
Hi oedd y genhedlaeth olaf o'r teulu i siarad yr hen iaith.
Roedd Ted yn ddyn addysgiadol ac fe adawodd y byd pêl-fâs ar ôl un tymor yn unig yn y National League i fod yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Columbia ac yna'n llywydd Prifysgol New Hampshire tan ei farwolaeth yn 1936.
Mae'r gymuned bêl-fâs yn Boston yn ei gofio'n gynnes.
Yn 1896 ef oedd y "pitcher" gorau yn y cynghreiriau proffesiynol ac mewn camp sy'n rhoi pwyslais mawr ar ystadegau mae hynny wedi sicrhau ei anfarwoldeb.
Er nad oes unrhyw ddisgynyddion o'r teulu ym Machynlleth bellach, siawns na fydd rhai o'r ardal yn falch o gyfraniad un o feibion Powys os bydd y Boston Red Sox yn llwyddo i ennill Pencampwriaeth y Byd.