Statws arbennig i dir castell?

  • Cyhoeddwyd
Castell HwlfforddFfynhonnell y llun, Pembrokeshire council
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r cyngor tref eisiau sicrhau statws arbennig i'r lawnt o amgylch y castell

Bydd gwrandawiad cyhoeddus yn cael ei gynnal yn Sir Benfro ddydd Mercher i benderfynu a ddylid rhoi statws arbennig i'r lawnt o amgylch castell Hwlffordd.

Mae'r cyngor tref am i'r safle gael ei nodi fel darn o dir i'r gymuned gan ddweud y byddai hynny yn rhwystro unrhyw adeiladu gan ddatblygwyr.

Y cyngor sir sy'n berchen y tir ac maen nhw'n gwrthwynebu'r cais.

Mae'n bosib y bydd y gwrandawiad yn para tan ddydd Gwener.

Yn y gorffennol mae datblygwr wedi dangos diddordeb mewn codi gwesty moethus ar y safle.

Pryder rhai yn y dref yw y byddai hynny wedyn yn golygu na fyddai modd i'r cyhoedd gael mynediad i'r castell.

Chwaraeon

Er mwyn sicrhau bod y tir yn cael ei nodi fel darn o dir i'r gymuned byddai angen dangos fod trigolion lleol wedi mwynhau "chwaraeon cyfreithiol a hamddena am gyfnod o ddim llai na ugain mlynedd".

Dywed Cyngor Sir Penfro fod y tir o amgylch y castell wedi cael ei ddiffinio fel 'tir agored' yn 2009 ac y dylai'r bod y cyngor tref wedi herio'r penderfyniad bryd hynny.

Dadl y cyngor sir yw bod y disgrifiad 'tir agored' yn golygu fod modd rhoi trwydded er mwyn sicrhau fod gweithgareddau cyhoeddus yn cael eu cynnal ar y safle.

Dywedodd llefarydd na fyddai hyn yn bosib pe bai'r safle yn cael ei nodi fel darn o dir i'r gymuned.

"Byddai rheolaeth go iawn yn diflannu," meddai'r llefarydd.

"Rydym hefyd yn credu fod modd ailddatblygu'r ardal yng nghyffiniau'r castell, a hynny er budd i dref Hwlffordd.

"Er enghraifft mae yna ddiddordeb wedi ei ddangos yn y posibilrwydd o ddatblygu gwesty pum seren.

"Mae yna arian cyhoeddus sylweddol wedi ei wario ar y gwrandawiad, a dyna pan rydym yn wynebu amser caled.

"Cyngor Tref Hwlffordd sydd ar fai am hyn - yn ein tyb ni mae'r cais yn un diangen."