Hywel Dda: Jones yn amddiffyn cynlluniau

  • Cyhoeddwyd
Carwyn JonesFfynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,
Mae Carwyn Jones yn gwadu bod llawdriniaethau wedi eu canslo

Mae'r prif weinidog wedi gwadu bod unrhyw lawdriniaethau sy'n cael eu trefnu o flaen llaw wedi cael eu canslo gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

Dywedodd Carwyn Jones fod y bwrdd iechyd yn paratoi ar gyfer nifer "addas" o lawdriniaethau dros y gaeaf er mwyn gallu ymdopi gyda pwysau ychwanegol.

Roedd Mr Jones yn wynebu cwestiynau gan arweinwyr pob gwrthblaid ar lawr y Cynulliad ynglŷn â chynnig y bwrdd iechyd i leihau nifer y llawdriniaethau fydd yn cael eu cynnal dros y gaeaf.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood fod amser aros o ryw bymtheg mis ar gyfer llawdriniaethau orthopedig o fewn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda a dyfynnodd rybudd gan undeb Unsain y gallai pump neu chwe mis arall gael ei ychwanegu at hynny yn dilyn cyhoeddiad y bwrdd iechyd ddydd Llun.

'Dicter'

"Ydych chi'n ymwybodol o'r lefel o ddicter ymhlith clinigwyr Hywel Dda, sydd wedi cael gwybod bod traean o'u gwaith yn cael ei gymryd oddi arnynt y gaeaf hwn?" gofynnodd Ms Wood.

Ateb Carwyn Jones oedd bod y bwrdd iechyd yn gwneud "yn union" yr hyn yr oedd y gwrthbleidiau wedi gofyn amdano sef "cynllunio at bwysau'r gaeaf".

Ychwanegodd: "Mae'n hollol anghywir i ddweud bod y bwrdd iechyd yn canslo holl lawdriniaethau orthopedig heblaw'r rhai brys.

"Bydd y rheiny sydd wedi trefnu i gael llawdriniaethau orthopedig yn eu derbyn a bydd holl lawdriniaethau canser, brys a dydd yn parhau.

"Be' maen nhw'n wneud yw gwneud yn siŵr eu bod yn cynllunio o flaen llaw fel eu bod yn gallu cario 'mlaen gyda lefel addas o lawdriniaethau ond gyda'r capasati i ddelio gyda phwysau ychwanegol y gaeaf."

'Ddim yn glir'

Yna fe ofynnodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol iddo gyhoeddi'r holl gynlluniau sydd wedi eu cyflwyno i'r llywodraeth er mwyn delio gyda phwysau'r gaeaf gan y byrddau iechyd "fel bod pawb yn gwybod beth sy'n digwydd".

"Mae'n edrych fel eich bod chi ddim yn glir iawn am gynlluniau'r byrddau iechyd am y gaeaf. Dyw'ch llywodraeth ddim yn glir am gynlluniau'r byrddau iechyd am y gaeaf a dyw'r cyhoedd na'r clinigwyr ddim yn glir iawn chwaith," meddai Kirsty Williams.

Fe wnaeth Mr Jones ailadrodd ei ateb blaenorol, sef bod byrddau iechyd yn gorfod cynllunio ar gyfer lefel addas o lawdriniaethau, a bod dim un llawdriniaeth wedi cael ei chanslo.

Rhybudd o argyfwng

Tro Andrew RT Davies oedd hi wedyn, arweinydd yr Wrthblaid.

Dywedodd fod Mr Jones "unwaith eto wedi dangos fod ei lywodraeth wedi datgysylltu o'r realiti o be' mae llawer o gleifion a chlinigwyr yn wynebu o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru".

Cwestiynodd a oedd gweinidogion Cymreig "yn ymwybodol" y byddai canslo llawdriniaethau yn cael "effaith anferth ar brofiad cleifion ac ar allu'r bwrdd iechyd i gadw clinigwyr allweddol".

Dywedodd hefyd fod agwedd y prif weinidog yn "wamal" o ystyried difrifoldeb cynigion Hywel Dda a rhybuddiodd y gallai "sefyllfa o argyfwng" ddatblygu dros y pum mis nesaf.

Mewn ymateb, dywedodd Carwyn Jones fod Mr Davies unai yn "ceisio bod yn ffuantus" neu ei fod ddim yn gwrando ar ei atebion.

Awgrymodd mai'r hyn roedd arweinydd y Ceidwadwyr yn ei ddweud allai arwain at "argyfwng".

Mewn neges olaf i'w wrthwynebwyr, dywedodd ynglyn â'r Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol: "Llawn cystal mai nid y nhw sy'n rhedeg y gwasanaeth iechyd yng Nghymru."