Parc solar anferth i Sir y Fflint?
- Cyhoeddwyd

Mae dydd agored yn cael ei gynnal yn Sir y Fflint er mwyn rhoi cyfle i'r cyhoedd gael gwybodaeth am barc solar allai gael ei agor yno.
Hwn fyddai'r parc solar mwyaf yn y Deyrnas Unedig gyda 180,000 o baneli cynhyrchu trydan wedi eu gwasgaru dros 222 o aceri
Mae hynny'n cyfateb mewn maint i 125 o gaeau pêl-droed.
Y safle sydd wedi ei glustnodi ar gyfer y datblygiad yw darn o dir i'r gogledd o Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.
Yn ôl y cwmni sydd yn berchen ar y cynlluniau, sef Compton Group o Abertawe, byddai tua 100 o swyddi'n cael eu creu yn ystod y cyfnod adeiladu gyda nifer fechan o swyddi ychwanegol ar gyfer pan fyddai'r safle'n weithredol.
Maen nhw'n dweud y byddai'n creu 45MW o egni fyddai'n ddigon i ddarparu pwer ar gyfer 11,000 o dai.
Ond nid pawb sydd o blaid - dywedodd cynghorydd lleol yn ddiweddar y byddai defnyddio tir amaethyddol cystal ar gyfer parc solar yn anghywir.
Mae Compton Group yn dadlau y byddai adeiladu'r parc yn hwb i ymdrechion awdurdodau i gynyddu faint o egni sy'n cael ei ddarparu gan ffynhonnau adnewyddadwy.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan: "Mae llywodraeth Cymru a llywodraeth Prydain wedi ymrwymo i leihau allyriadau CO2 yn sylweddol ac mae parciau solar yn rhan bwysig o gyrraedd y targedau yma a darparu ffynhonnell adnewyddol o egni adnewyddol sy'n lleihau'r ddibyniaeth ar danwydd ffosil."
Mae'r datblygwyr yn cynnal sesiynau i drafod y cynigion yn Quay Building, Fron Road, Cei Cona rhwng 2pm a 8pm ddydd Mercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2011