Seiclo: Nifer o Gymry yn nhîm Prydain
- Cyhoeddwyd

Mae tîm Prydain Fawr wedi enwi carfan o 17 ar gyfer Cwpan y Byd ar y trac ym Manceinion yr wythnos nesaf, gyda nifer o Gymry yn eu plith.
Enillodd Prydain fedalau aur (3), arian (2) ac efydd (3) ym Mhencampwriaeth Ewrop yn ddiweddar.
Roedd Elinor Barker o Gaerdydd yn y tîm gyda Laura Trott a Dani King, a enillodd fedal aur.
Bydd y gwibiwr Becky James yn ymuno gyda Barker yn nhîm y merched.
Yn y rasys hirach bydd dau Gymro yn nhîm y dynion, a'r ddau sydd wedi eu dewis yw Owain Doull a Sam Harrison.
Bydd rownd gyntaf Cwpan y Byd yn cael ei chynnal ym Manceinion rhwng Tachwedd 1-3 cyn yr ail rownd ym Mecsico ym mis Rhagfyr.
Fe fydd y drydedd rownd, sef y rownd olaf, yn cael ei chynnal ym mis Ionawr 2014, ond nid yw'r lleoliad ar gyfer y rownd honno wedi ei gadarnhau hyd yma.
Bydd y cystadleuwyr yn ceisio ennill pwyntiau i gymhwyso ar gyfer Pencampwriaeth y Byd 2014 yn Cali, Colombia.
Tîm Seiclo Prydain - Cwpan y Byd, rownd 1, Manceinion :-
Gwibio (dynion): Matt Crampton, Kian Emadi, Jason Kenny, Phil Hindes
Gwibio (merched):Becky James, Jess Varnish, Vicky Williamson
Rasys hir (dynion): Steven Burke, Ed Clancy, Jon Dibben, Owain Doull, Sam Harrison, Andy Tennant
Rasys hir (merched):Elinor Barker, Dani King, Joanna Rowsell, Laura Trott