18 mlynedd dan glo i gyn Faer Dinbych

  • Cyhoeddwyd
EitemauFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Rhai o'r eitemau y daethpwyd o hyd iddyn nhw yng nghartre' Larsen

Mae cyn Faer Dinbych wedi cael ei ddedfrydu i gyfanswm o 18 mlynedd o garchar ar ôl i lys ei gael yn euog o achosi ffrwydradau yn y dref.

Penderfynodd rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau, fod John Larsen, 46, yn euog o bum cyhuddiad, sef tri o ymgeisio i losgi ceir yn fwriadol, un o achosi ffrwydrad a allai beryglu bywyd, ac un cyhuddiad o fod â ffrwydron yn ei feddiant gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

Roedd Larsen wedi gwadu fod ganddo unrhyw beth i'w wneud gyda'r ffrwydradau yn ardal Pwll-y-grawys rhwng mis Ionawr ac Ebrill eleni.

Yn ystod yr achos honnodd yr erlyniad fod Larsen wedi cael "gwefr" o gyflawni'r gweithredoedd.

Difrod

Clywodd y rheithgor ar ddechrau'r achos fod "cyfres o ffrwydradau bychain" wedi bod yn Ninbych ym mis Chwefror a oedd wedi difrodi nifer o geir.

Arweiniodd y rhain at "ffrwydrad mwy" ar Fawrth 24 pan gafodd dyfais a oedd yn debyg i fom ei gosod o dan gerbyd Land Rover Discovery yn y dre'.

Clywodd y llys fod y ffrwydrad wedi difrodi'r cerbyd yn ogystal ag un arall oedd wedi parcio gerllaw, a chafodd darnau o fetel eu taflu "i bob cyfeiriad".

"Cafodd ffenestri eu torri ... roedd y digwyddiadau wedi achosi pryder mawr i'r gymuned," meddai bargyfreithiwr yr erlyniad Wyn Lloyd Jones.

Dywedodd ei fod yn credu mai Mr Larsen oedd yn gyfrifol am y ffrwydradau gan nad oedd ffrwydradau pellach wedi iddo gael ei arestio ar Ebrill 19.

Honnodd yr erlyniad hefyd fod y diffynydd "wedi bod yn ymarfer gwneud ffrwydradau ers tri mis".

Ond roedd Larsen wedi mynnu wrth y llys ei fod yn gwneud "tân gwyllt nid bomiau", a bod ganddo gemegolion yn ei feddiant ar gyfer perfformio fel consuriwr.

Ymateb

Wedi i'r ddedfryd gael ei chyhoeddi, dywedodd Karen Dixon, Prif Erlynydd y Goron ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru: "Fe achosodd gweithredoedd anystyriol John Larsen ddifrod i eiddo yn ogystal â phryder a braw i nifer o drigolion ym Mhwll-y-grawys.

"Mewn sawl ffordd, lwc pur yw hi nad oedd ei weithredoedd wedi arwain at ganlyniadau mwy difrifol.

"Mae Larsen yn unigolyn sydd wedi bod mewn safle o ymddiriedaeth a chyfrifoldeb o fewn y gymuned leol ac mae'n siomedig ei fod wedi dewis camddefnyddio'r ffydd yr oedd gan nifer o'r bobl leol ynddo.

Mae wedi methu âchymryd unrhyw gyfrifoldeb am ei weithredoedd ac mae'n iawn ei fod nawr wedi gorfod ateb i'w droseddau mewn llys."