Ymgyrch Pallial: Arestio un arall

  • Cyhoeddwyd

Mae swyddogion o'r Asiantaeth Droseddau Genedlaethol (NCA) wedi arestio dyn 66 oed fel rhan o'r ymchwiliad i honiadau hanesyddol o gam-drin plant yng ngogledd Cymru.

Cafodd y dyn ei arestio yn St Leonards on Sea, Dwyrain Sussex, ar amheuaeth o nifer o droseddau o ymosod yn anweddus.

Honnir i'r troseddau gael eu cyflawni yn erbyn tri bachgen rhwng 10 ac 14 oed rhwng 1975 a 1977.

Cafodd y dyn ei gludo i orsaf heddlu leol lle mae'n cael ei holi gan swyddogion yr NCA ac Ymgyrch Pallial.

Dyma'r 13eg person i gael ei arestio fel rhan o Ymgyrch Pallial.

Hyd yma mae un dyn wedi cael ei gyhuddo o nifer fawr o droseddau rhyw.