Rhoi cynllun pentre' gwyliau o'r neilltu
- Cyhoeddwyd

Mae cynllun i godi pentref gwyliau ger Llandeilo wedi cael ei roi o'r neilltu am y tro ond heb gael ei ddiystyru'n llwyr.
Bwriad cwmni datblygu Maxhard, gyda chefnogaeth ariannol cwmni o China, yw codi gwesty, 10 o siopau a llety moethus gyda'r nod o ddenu 20,000 o ymwelwyr y flwyddyn.
Mae Maxhard wedi gorfod ailfeddwl eu cynlluniau ar gyfer pentre' ymwelwyr ar ôl i adroddiad annibynnol ddweud bod y cynllun yn "anaddas".
Lleoliad y datblygiad yw Neuadd Pantglas sy'n edrych dros Ddyffryn Tywi.
Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Maxhard eu bod yn ymateb i bryderon, yn bennaf rhai perchnogion cabanau gwyliau eraill gerllaw.
Mae Comisiwn Dylunio Cymru, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru 10 mlynedd yn ôl, wedi dweud bod y cynlluniau gwreiddiol yn "anghymesur a diddychymyg".
Erbyn hyn, mae'r cwmni'n ystyried cynllun peilot arall fyddai dipyn llai na'r cynllun gwreiddiol, ond maen nhw'n pwysleisio nad ydyn nhw wedi gwneud penderfyniad terfynol.
Straeon perthnasol
- 15 Tachwedd 2012
- 10 Mai 2012