Honiadau o gam-drin plentyn: Arestio gweinidog

  • Cyhoeddwyd
Car Heddlu
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r gweinidog ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau'r heddlu'n parhau.

Cafodd gweinidog 81 oed ei arestio yng ngorllewin Cymru yn sgil honiadau o gam-drin plentyn.

Y gweinidog yw Gwyn Ieuan Morgan, gweinidog capeli Bryn Iwan yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin a Moreia, Blaenwaun, yn Sir Benfro.

Dywedodd yr heddlu fod hyn yn ymwneud â digwyddiadau honedig flynyddoedd yn ôl.

Mae'r gweinidog ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau'r heddlu'n parhau.

Gwahardd

Cafodd ei wahardd o'i ddyletswyddau.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Dr Geraint Tudur fod aelodau "wedi eu syfrdanu".

"Rydan ni'n elusen sy'n cynnig cefnogaeth gyfreithiol a bugeiliol ac mi gynghoron ni'r capeli i wahardd y gweinidog o'i ddyletswyddau ar unwaith ...

"Mi gymerodd yr ymddiriedolwyr gamau ar unwaith.

"Yn naturiol, mae'r aelodau wedi eu syfrdanu ac mi rydan ni'n rhoi cefnogaeth fugeiliol iddyn nhw o hyd."

Gan mai eglwysi annibynnol ydyn nhw, meddai, nid oes pŵer gan yr undeb i orfodi gwirio a chofrestri CRB er ei fod yn annog eglwysi lleol yn gryf ac yn rheolaidd i sicrhau bod y broses yn cael ei dilyn.