Tasglu yn argymell bod yr Eisteddfod yn cael mwy o arian
- Cyhoeddwyd

Mae adroddiad tasglu a sefydlwyd i ystyried yr Eisteddfod Genedlaethol yn dweud y dylai Llywodraeth Cymru a'r Gymdeithas Llywodraeth Leol roi mwy o arian i'r Brifwyl.
Cafodd adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen yr Eisteddfod- a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru'r llynedd - ei gyhoeddi ddydd Iau.
Mae'r grŵp a gadeiriwyd gan y darlledwr Roy Noble hefyd yn dweud y dylai'r Eisteddfod barhau i deithio o amgylch Cymru, ac y dylid penodi Cyfarwyddwr Artistig i'r Brifwyl "i fod yn gyfrifol am greu gŵyl ddeinamig fydd yn denu ymwelwyr o bedwar ban byd".
Yn ogystal, mae'r adroddiad yn nodi y dylid cydweithio mwy gyda gwyliau a sefydliadau eraill, gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd a chyrff cyhoeddus sydd â phresenoldeb ar Faes y Brifwyl.
Dyw hi ddim yn syndod fod y tasglu wedi cefnogi fformat presennol yr Eisteddfod fel gŵyl symudol.
Yn ystod Prifwyl Sir Ddinbych a'r Cyffiniau eleni, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y dylai'r Eisteddfod barhau i deithio ac mae'r trefnwyr hefyd wedi dadlau bod teithio yn allweddol i'w llwyddiant.
Caerdydd 2018
Un syniad a oedd dan ystyriaeth oedd sefydlu safleoedd parhaol yn y de a'r gogledd, gyda'r Eisteddfod yn defnyddio'r ddau unwaith bob pedair blynedd, a theithio yn ystod y blynyddoedd eraill.
Ond dyw'r adroddiad terfynol ddim yn argymell y patrwm hwn, gan gasglu y dylai'r Eisteddfod "barhau i deithio i wahanol ardaloedd o Gymru bob blwyddyn, ei bod yn arbrofi gydag adlewyrchu'n well yr ardal leol mae'n ymweld â hi ac yn gwneud defnydd o adnoddau sefydlog megis adeiladau yn Eisteddfod Caerdydd 2018."
Mae hefyd yn nodi y dylai'r llywodraeth baratoi adroddiad ar yr elfennau hyn yn dilyn Eisteddfod Caerdydd yn 2018.
Wedi adroddiad mewnol, fe gyflwynwyd newidiadau i Eisteddfod eleni yn Sir Ddinbych, ac mae'r trefnwyr yn pwysleisio eu bod yn chwilio'n barhaus am ffyrdd i foderneiddio'r ŵyl.
Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi hyn, gan ddweud: "Teg yw nodi bod yr Eisteddfod ei hun wedi cymryd nifer o gamau i foderneiddio'r sefydliad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf."
Ymateb
Mae Carwyn Jones wedi croesawu'r adroddiad, gan ddweud:
"Mae'r Eisteddfod yn rhan bwysig o'n diwylliant ac yn ŵyl arbennig iawn i lawer o bobl. Gwnaethom sefydlu'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen hwn i sicrhau ein bod yn llwyr ymwybodol o farn y cyhoedd a'r opsiynau gorau sydd ar gael i ehangu apêl yr ŵyl a chynyddu nifer yr ymwelwyr.
"Hoffwn ddiolch yn fawr i Roy Noble a gweddill y Grŵp am eu gwaith caled wrth lunio'r adroddiad hwn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n gwneud sawl pwynt diddorol, a byddaf yn ystyried y rhain yn fanwl cyn cyflwyno ein hargymhellion i'r Eisteddfod."
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts: "Rydym yn croesawu cyhoeddi adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen yr Eisteddfod, a byddwn yn rhoi ystyriaeth drylwyr i'w gynnwys.
"Edrychwn ymlaen at y cyfle i drafod yr adroddiad gyda'r Prif Weinidog a chlywed ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion maes o law.
"Bydd ein Bwrdd Rheoli a Chyngor yr Eisteddfod yn trafod yr ymateb hwn yn ogystal â'r adroddiad a'i argymhellion."