Newid i faterion cyfoes Cymraeg
- Cyhoeddwyd
Fydd y rhaglen materion cyfoes Taro Naw ddim yn ymddangos ar y teledu'r flwyddyn nesaf.
Mae'r penderfyniad wedi ei wneud ar y cyd rhwng S4C a BBC Cymru.
Dywed llefarydd ar ran y BBC nad yw'r newidiadau wedi eu gwneud er mwyn arbed arian am y bydd yr un lefel o fuddsoddiad yn cael ei rhoi i faterion cyfoes yn y Gymraeg.
Y bwriad ydy creu rhaglenni sydd yn ymateb i straeon newyddion mawr pan maen nhw'n digwydd a rhai sydd yn ymateb i'r pynciau mawr yng Nghymru.
Mewn datganiad dywed y BBC: "O ganlyniad i'n sgyrsiau golygyddol rheolaidd gyda S4C byddwn yn ail-flaenoriaethu ein hadnoddau presennol i gynhyrchu rhaglenni a fydd yn mynd i'r afael â materion mawr y dydd.
"Y bwriad yw creu mwy o argraff ar ein cynulleidfaoedd wrth i ni roi sylw i'r straeon mawr hynny wrth iddyn nhw godi. Rydym ni yn cydnabod llwyddiannau golygyddol sylweddol Taro Naw yn y gorffennol, ac yn pwysleisio nad yw'r newidiadau yma yn adlewyrchiad o unrhyw ddiffyg yn safon y rhaglenni.
"Rydym ni yn tanlinellu y byddwn ni yn cynnal yr un lefel o fuddsoddiad ariannol mewn rhaglenni materion cyfoes Cymraeg gan mai newid cyfeiriad golygyddol sydd wedi ei gytuno ar y cyd gyda S4C, yn hytrach na gwneud arbedion, yw'r rheswm dros gyflwyno'r newidiadau."