Teithwyr o Ffrainc wedi gadael maes parcio ysbyty yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd
Teithwyr
Disgrifiad o’r llun,
Gadawodd y teithwyr tua 4pm ddydd Mercher

Mae teithwyr o Ffrainc, oedd yn rhwystro staff rhag parcio ger ysbyty, wedi gadael y safle.

Roedd y grŵp wedi cael gorchymyn i symud eu carafanau o faes parcio Ysbyty Brenhinol Gwent brynhawn Mawrth ond dywedon nhw eu bod yn bwriadu aros diwrnod arall.

Mae nifer o lawfeddygon, meddygon a nyrsys wedi methu defnyddio'r maes parcio ers dydd Llun, gan fod teithwyr yn defnyddio 65 o safleoedd yno.

Mewn cyfweliad â BBC Cymru, dywedodd un o'r teithwyr ei fod eisiau diolch i'r staff diogelwch, yr heddlu a'r ysbyty a'i fod yn ymddiheuro os oedden nhw'n achosi problemau i staff.

Cadarnhaodd fod y teithwyr wedi dod i Gasnewydd ar gyfer angladd a'u bod wedi bwriadu aros am ychydig ddyddiau.

Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi dweud nad oedd y sefyllfa wedi effeithio ar wasanaethau i gleifion.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol