Damwain: dyn wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae heddlu'r de yn apelio am wybodaeth wedi i ddyn farw yn dilyn damwain ger Aberdaugleddau.
Roedd y gyrrwr beic modur yn teithio o Aberdaugleddau i gyfeiriad pentref Waterston pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad brynhawn Mercher.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw lygad dystion i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101.