Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 63 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio mewn yn sir Conwy.
Cafodd yr heddlu eu galw i eiddo ym Mhenlan, Deganwy, am 6:45pm ddydd Mercher lle cafodd corff menyw oedrannus ei ddarganfod.
Dywedodd yr heddlu bod y fenyw yn nabod y dyn gafodd ei arestio, ac mae o yn y ddalfa yn Llanelwy.
Mae swyddogion fforensig yn yr eiddo, ond nid yw'r heddlu eto'n gwybod union achos marwolaeth y fenyw.