Radio: Ffigyrau calonogol
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Radio Cymru wedi cadw'i gwrandawyr dros y misoedd diwethaf yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan gwmni RAJAR.
Daeth croeso i'r ffigyrau gan BBC Cymru, yn enwedig gan fod Radio Wales wedi gweld cynnydd yn nifer eu gwrandawyr nhw.
Bob wythnos dros y tri mis diwethaf roedd Radio Cymru'n cyrraedd cynulleidfa o 143,000 yn wythnosol, sef ffigwr tebyg iawn i'r chwarter blaenorol.
Fe welodd Radio Wales gynnydd o 24,000 dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae'r orsaf erbyn hyn yn cyrraedd 474,000 o wrandawyr bob wythnos.
Dywedodd Betsan Powys, Golygydd Rhaglenni Radio Cymru:
"Mae wedi bod yn flwyddyn anodd i dîm Radio Cymru ac mae'r ffigyrau yma yn glod i'w gwaith caled a'u dyfalbarhad.
"Mae'n galonogol bod y ffigyrau'n dangos ein bod yn cadw'n gwrandawyr, a bod y nifer sy'n gwrando yn debyg i'r adeg yma'r llynedd.
"O fewn yr wythnosau nesaf rwy'n bwriadu amlinellu cynllun i'r orsaf a fydd yn cryfhau ei hapêl ac yn ateb y materion a godwyd yn ystod Sgwrs Radio Cymru."
Straeon perthnasol
- 1 Awst 2013
- 25 Ebrill 2013