Dryswch am arian HS2 i Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae dryswch ynghylch a fydd Cymru'n derbyn cyllid ychwanegol o ganlyniad i gynllun rheilffordd HS2 ai peidio.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt wrth Aelodau Cynulliad y bydd £35 miliwn yn fwy yn dod i Gymru yn 2015-16 o ganlyniad i wariant o £832m gan Lywodraeth y DU ar y cynllun.
Ond mae'r Trysorlys wedi gwadu hyn, gan ddweud bod gwariant ar HS2 yn cael ei eithrio o ddosraniadau ariannol trwy fformiwla Barnett.
Mae Ms Hutt nawr yn wynebu galwadau am eglurhad, ac mae honiadau y gallai fod wedi camarwain ACau.
Mae'r ddadl ynghylch a ddylai Cymru gael mwy o gyllid oherwydd y cynllun HS2 wedi bod yn bwnc llosg dros y blynyddoedd diwethaf.
Daeth croeso i ddatganiad Ms Hutt gan ymgyrchwyr o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol.
Fe fyddai wedi golygu tua £35m yn ychwanegol i Gymru yn 2015-16, ac wedi gosod cynsail am fwy (biliynau o bosib) dros oes y cynllun.
Angen eglurdeb
Ond mae'r Trysorlys wedi dweud bod honiad Llywodraeth Cymru yn anghywir, ac nad yw HS2 yn rhan o'r taliadau a ddaw trwy fformiwla Barnett.
Mae'r broses o ddosrannu cyllid yn golygu bod Cymru'n cael cyfran o unrhyw wariant ychwanegol yn Lloegr ar feysydd sydd wedi eu datganoli.
Mae'r meysydd hynny'n cynnwys trafnidiaeth, ond mae gan y Trysorlys ddisgresiwn i benderfynu nad oes angen gwneud taliadau ychwanegol os ydy'r cynllun dan sylw o fudd i'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: "Yn y rownd wariant, fe dderbyniodd Cymru daliadau canlyniadol Barnett yn y modd arferol; nid oedd hynny'n cynnwys cyllid i HS2.
"Mae'r llywodraeth yn glir fod HS2 yn rhan hanfodol o'n hisadeiledd cenedlaethol gan hybu twf rhanbarthol ar draws y wlad a darparu'r hyn sydd ei angen ar y DU i gystadlu yn y ras fyd-eang."
Dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru: "Mae'n hanfodol fod y Gweinidog Cyllid yn egluro'r sefyllfa cyn gynted â phosib, oherwydd os yw'r hyn y mae'r Trysorlys yn ei ddweud yn wir mae'r Gweinidog Cyllid wedi camarwain y Pwyllgor Cyllid.
"Mae Aelodau Cynulliad yn disgwyl i'r wybodaeth sy'n cael ei ddarparu iddynt gan Lywodraeth Cymru i fod yn iawn a chywir."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Roedd datganiad buddsoddiad cyfalaf y Prif Ysgrifennydd, "Buddsoddi yn Nyfodol Prydain", ar 27ain Mehefin, yn cynnwys y dosraniad ariannol ar gyfer HS2 o 2015-16 i 2020-21.
"Mae ein Cyllideb Ddrafft, a gyhoeddwyd ar Hydref 8, yn cynnwys £84m a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r cynnydd o £2 biliwn yng nghyllideb gyfalaf yr Adran Drafnidiaeth yn rownd wariant 2013. Fe gafodd hyn ei gyfrifo yn unol â rheolau arferol fformiwla Barnett.
"Rydym yn ceisio cael eglurder ar y sefyllfa gyda'r Trysorlys."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2013