Profi disgyblion Ysgol y Strade am y diciâu
- Cyhoeddwyd

Bydd 124 o ddisgyblion ac aelodau o staff ysgol gyfun yn Sir Gaerfyrddin yn cael cynnig profion gwaed am y diciâu ddydd Iau.
Daeth y cyhoeddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi iddi ddod i'r amlwg bod aelod o staff Ysgol Y Strade, Llanelli, yn diodde' o'r haint.
Fe gafodd rhieni'r disgyblion lythyr i ddweud y bydd y plant yn cael cynnig y profion, ond fe ddywed swyddogion iechyd bod y risg y byddai'r clefyd yn lledaenu i'r plant yn isel.
Bydd 21 aelod o staff yr ysgol hefyd yn cael cynnig y prawf gwaed, sef y rhai oedd mewn cysylltiad agos â'r aelod o staff a gafodd ei heintio.
Dywedodd Sion Lingard, o Iechyd Cyhoeddus Cymru, nad yw'r diciâu'n glefyd sy'n lledaenu'n hawdd, a bod modd ei drin gyda chyffuriau gwrthfiotig.
"Rydym yn pwysleisio i ddisgyblion, rhieni a staff bod gweld y diciâu yn lledaenu o fewn amgylchedd ysgol yn beth prin iawn, a'n bod yn cynnig y rhaglen sgrinio fel mesur rhag ofn," meddai.