Rhybudd Laudrup rhag llaesu dwylo
- Cyhoeddwyd

Mae rheolwr Abertawe Michael Laudrup wedi dweud na all ei dîm laesu dwylo yn erbyn Kuban Krasnodar yng nghynghrair Europa.
Mae'r Elyrch ar frig Grŵp A wedi dwy fuddugoliaeth yn eu dwy gêm gyntaf, tra bod y clwb o Rwsia wedi colli eu dwy gêm nhw.
Byddai trydedd buddugoliaeth yn gosod Abertawe ar drothwy lle yn rownd y 32 olaf, ond mae Laudrup yn mynnu y bydd angen i'w dîm fod ar eu gorau.
"Pan ydych chi'n chwarae yn Ewrop a ddim yn chwarae 100% fe allwch chi golli. Mae mor syml â hynny," meddai.
"Nid yw'r tîm yma yn un drwg. Mae ganddyn nhw chwaraewyr da."
Fe gafodd Laudrup gyfnod o weithio yn Rwsia fel hyfforddwr Spartak Moscow, ac mae'n gwybod y byddai triphwynt nos Iau yn gam mawr tuag at y rownd nesaf.
Mae Abertawe eisoes wedi curo Valencia o 3-0 yn Sbaen cyn curo St Gallen o'r Swistir yn Stadiwm Liberty o 1-0.
Fe fyddan nhw'n teithio i Rwsia i wynebu Krasnodar ar Dachwedd 7, cyn cwblhau'r grŵp gyda thaith i St Gallen ac yna gêm gartref yn erbyn Valencia ym mis Rhagfyr.
Ond mynnodd Laudrup bod cael pwyntiau llawn nos Iau yn flaenoriaeth, gan ychwanegu:
"Mae'r ddwy gêm nesaf oddi cartref yn rhai anodd. Rhaid mynd i Rwsia gyda'r holl deithio a'r gwahaniaeth amser, ac yn y Swistir fe fydd rhaid ymdopi â'r tywydd oer.
"Bydd ymweliad Valencia yn anodd hefyd felly mae heno yn gêm allweddol i ni.
"Fe ddylai 10 pwynt fod yn ddigon, ond efallai bydd angen 11."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Medi 2013
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2013