Arian HS2 i Gymru: Datrys dryswch

  • Cyhoeddwyd
HS2 graphicFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Mae Llywodraeth Cymru'n mynnu y bydd Cymru'n derbyn arian ychwanegol yn sgil cynllun HS2

Mae'r dryswch ynghylch a fydd Cymru'n derbyn cyllid ychwanegol o ganlyniad i gynllun rheilffordd HS2 ai peidio wedi ei ddatrys, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Roedd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt wedi dweud wrth Aelodau Cynulliad ddydd Mercher y bydd £35 miliwn yn fwy yn dod i Gymru yn 2015-16 o ganlyniad i wariant o £832m gan Lywodraeth y DU ar y cynllun.

Roedd y Trysorlys wedi gwadu hynny, gan ddweud bod gwariant ar HS2 yn cael ei eithrio o ddosraniadau ariannol trwy fformiwla Barnett.

Mae'r ddadl ynghylch a ddylai Cymru gael mwy o gyllid oherwydd y cynllun HS2 wedi bod yn bwnc llosg dros y blynyddoedd diwethaf.

O ganlyniad roedd Ms Hutt wedi wynebu galwadau am eglurhad, a honiadau y gallai fod wedi camarwain ACau.

'Llythyr yn gywir'

Ond yn dilyn trafodaethau gyda'r Trysorlys, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad sy'n dweud: "Mae llythyr y Gweinidog Cyllid i Bwyllgor Cyllid y Cynulliad yn gywir.

"Wrth gyhoeddi rownd o wariant ym Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'r cyllid ar gyfer HS2 yn 2015-16 yn dod drwy gyllideb cyfalaf yr Adran Drafnidiaeth.

"Roedd hyn yn cyfrannu at gynnydd yn y gyllideb gyfalaf i'r Adran o £7.5 biliwn i £9.5 biliwn yn 2015-16 - cynnydd o £2 biliwn.

"Mae'r cynnydd yna yn cynnwys arian ar gyfer HS2.

"Derbyniodd Llywodraeth Cymru gyllid canlyniadol o £84.5 miliwn oherwydd y cynnydd o £2 biliwn."

Isadeiledd

Mae'r broses o ddosrannu cyllid yn golygu bod Cymru'n cael cyfran o unrhyw wariant ychwanegol yn Lloegr ar feysydd sydd wedi eu datganoli.

Mae'r meysydd hynny'n cynnwys trafnidiaeth, ond mae gan y Trysorlys ddisgresiwn i benderfynu nad oes angen gwneud taliadau ychwanegol os ydy'r cynllun dan sylw o fudd i'r DU yn ei chyfanrwydd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: "Yn y rownd wariant, fe dderbyniodd Cymru daliadau canlyniadol Barnett yn y modd arferol; nid oedd hynny'n cynnwys cyllid i HS2.

"Mae'r llywodraeth yn glir fod HS2 yn rhan hanfodol o'n hisadeiledd cenedlaethol gan hybu twf rhanbarthol ar draws y wlad a darparu'r hyn sydd ei angen ar y DU i gystadlu yn y ras fyd-eang."

Pe bai'r datganiad yna yn gwbl gywir fe fyddai Cymru ond wedi derbyn £49 miliwn o gyllid canlyniadol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol