Ailagor ffordd yr A498 ar ôl tirlithriad ger Beddgelert
- Cyhoeddwyd

Glaw trwm achosodd y tirlithriad ar ffordd yr A498 rhwng Beddgelert a Phenygwryd ddydd Mercher
Mae priffordd yn Eryri, a gafodd ei chau yn dilyn tirlithriad ddydd Mercher, wedi cael ei hailagor.
Cafodd ffordd yr A498, rhwng Beddgelert a Phenygwryd, ei chau i'r ddau gyfeiriad wedi i thua 30 tunnell o bridd a cherrig ddisgyn arni.
Bu'n rhaid i swyddogion ddefnyddio offer arbenigol i symud y pridd o'r lôn, ac mae goleuadau traffig nawr wedi'u gosod yno dros dro.
Fe ddigwyddodd y tirlithriad yn dilyn cyfnod o law trwm yn yr ardal.
Straeon perthnasol
- 23 Hydref 2013
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol