Saith o bobl yn pledio'n euog i dwyll morgais
- Cyhoeddwyd

Mae achos cymhleth yn ymwneud â thwyll morgais wedi dod i ben yn sydyn yn Llys y Goron Yr Wyddgrug wedi i'r saith diffynydd bledio'n euog.
Roedd nifer o'r diffynyddion wedi naill ai newid eu ple neu gyfadde' i'r cyhuddiadau dros yr wythnos ddiwetha'.
Plediodd y seithfed diffynnydd yn euog i gyhuddiad gwahanol a bydd yn cael ei ddedfrydu fis Ionawr.
Roedd y cyhuddiadau'n ymwneud ag achos arall gafodd ei gynnal yn yr un llys yn gynharach eleni pan gafwyd pump o bobl yn euog o dwyll.
£20 miliwn
Honnir fod gwerth y twyll hwnnw'n cyfateb i rhwng £15 a £20 miliwn.
Ar yr achlysur hwnnw cafodd y cyn blismon Anthony Lowri-Huws, 65 oed o Fae Cinmel, ei garcharu am saith mlynedd a chafodd y datblygwr Sheila Whalley, 67 oed o Abergele, chwe blynedd dan glo.
Dedfrydwyd y cyfreithiwr Nicholas Jones, 54 oed o'r Wyddgrug, a'r syrfëwr Frank Darlington, 62 oed o Sir Gaerhirfryn, i bedair blynedd o garchar yr un.
Cafodd Susan Lowri-Huws, 60 oed o Fae Cinmel, ddedfryd o 12 mis dan glo wedi'i gohirio am ddwy flynedd.
Dogefennau ffug
Ymhlith y diffynyddion yn yr achos diweddara' roedd merch a mab-yng-nghyfraith Sheila Whalley, Lisa Hansen a Christopher Hansen o Fae Cinmel, a'i merch hi a'i gŵr hithau, Brendan a Nicola Spencer-Whalley, o Lysfaen yn wreiddiol.
Mewn gwrandawiad cynharach yng Nghaerdydd cyfaddefodd Lisa Hansen i gyhuddiad o greu dogfennau ffug ac fe blediodd ei gŵr yn euog ddydd Mawrth, gyda Brendan a Nicola Spencer-Whalley yn dilyn ddydd Mercher.
Daeth yr achos i ben wedi i reithgor mwy na'r arfer gael ei ddewis.
Esboniodd y Barnwr Rhys Rowlands fod disgwyl i'r achos bara tan y Nadolig yn wreiddiol.
"Allai neb fod wedi rhagweld y byddai hyn (y datblygiadau diweddara') wedi digwydd," meddai, "yn enwedig o'm safbwynt i."
Straeon perthnasol
- 7 Mehefin 2013