Rygbi 13: Cyhoeddi carfan Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jordan JamesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Jordan James yn gobeithio ennill ei 28ain cap i Gymru, sydd o fewn dau i'r record

Mae tîm rygbi 13 Cymru wedi cyhoeddi'r garfan ar gyfer eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Fe fydd Cymru'n herio'r Eidal ar ôl i Loegr ac Awstralia wynebu'i gilydd yn Stadiwm y Mileniwm ar ddiwrnod cynta'r gystadleuaeth.

Yn y garfan o 19 gafodd ei chyhoeddi gan yr hyfforddwr Iestyn Harris ddydd Iau, fe allai tri chwaraewr ennill eu capiau cyntaf.

Bydd Rhys Evans o glwb Warrington yn gobeithio ymuno gyda'i efaill Ben yn y tîm, ac fe fydd Larne Patrick o Huddersfield ac Anthony Walker o St Helens yn gobeithio cael eu cyfle ar y lefel uchaf.

Mae'r tri ymhlith 13 o chwaraewyr Super League yn y garfan ynghyd â Tyson Frizell sydd wedi ei gynnwys ar ôl iddo wella o anaf. Fe yw'r unig gynrychiolydd o'r NRL yn hemisffer y de.

Os fydd Jordan James yn cael ei ddewis, fe fydd yn ennill cap rhif 28, dau yn brin o record Ian Watson dros Gymru.

Dywedodd Iestyn Harris: "Rwy'n credu bod gennym dîm cryf ar gyfer y gêm agoriadol.

"Rydym yn hyderus ond eto'n disgwyl gêm galed yn erbyn yr Eidalwyr yn enwedig wedi iddyn nhw guro Lloegr wythnos diwethaf.

"Rwyf yn falch bod Tyson Frizell wedi gwella o'i anaf - mae e wedi gweithio'n galed iawn i fod yma.

"Fedrwn ni ddim disgwyl tan ddydd Sadwrn i gael chwarae o flaen stadiwm lawn yn y Mileniwm."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol