Lansio cynllun twristiaeth ffydd
- Cyhoeddwyd

Mae Gweinidog yr Economi, Edwina Hart wedi lansio cynllun newydd i annog twristiaeth ffydd yng Nghymru.
Nod y cynllun yw cynyddu'r niferoedd sy'n ymweld ag addoldai a safleoedd sanctaidd Cymru a cheisio gweld sut y gallan nhw gael eu gwella fel atyniadau i ymwelwyr yn ogystal â phobl leol.
Ddwy flynedd yn ôl lansiwyd Taith Pererin Gogledd Cymru, taith 150 milltir (241km) o hyd, sy'n cynnwys nifer o safleoedd sanctaidd.
Syniad Deon Llanelwy, Y Tra Pharchedig Chris Potter, a'i wraig, Jenny, oedd y daith.
Ym mis Awst 2011 cerddodd 13 o bobl y daith gyfan am y tro cyntaf.
Mae Mr Potter wedi cerdded y daith yn 2012 a 2013 a dywedodd bod 150 o bobl wedi ymuno ag ef ar wahanol adegau yn ystod y daith.
"Mae'n datblygu'n dda iawn," meddai. "Rydym wedi cael ymholiadau gan bobl o'r Unol Daleithiau a Gwlad Belg ac mae miloedd o bobl wedi ymweld â gwefan swyddogol y daith.
"Rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda phlant o ysgolion cynradd sy'n agos i'r llwybr i ddylunio stampiau ar gyfer 'trwydded deithio' i'r daith.
"Rydym hefyd yn gweithio ar ddatblygu mannau ble bydd gwybodaeth ddigidol ar gael am y lleoliadau sanctaidd."
Cafodd Mr Potter a'i wraig eu hysbrydoli i lansio Taith Pererin Gogledd Cymru ar ôl cerdded ar bererindod i Santiago de Compostela yn Sbaen.
"Nid yw'r daith yng ngogledd Cymru mor hir â'r daith i Santiago de Compostela ond mae'r dirwedd yr un mor ysbrydoledig," dywedodd Mr Potter.
"Mae'n syfrdanol ar hyd yr holl ffordd ac yn cynnwys llawer o fannau hanesyddol sydd yn ei wneud yn addas ar gyfer pobl â diddordeb mewn hanes yn ogystal â materion ysbrydol.
"Ein nod nawr yw datblygu'r rhwydwaith fel bod cymunedau ar draws gogledd Cymru yn medru elwa."
Dywedodd Dewi Davies, Cyfarwyddwr Strategaeth Rhanbarthol Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru: "Mae rhai ohonom yn arbennig yn gwerthfawrogi profiadau sy'n ysbrydol ac ysbrydoledig a dyna le gall mentrau twristiaeth ffydd helpu i ddarparu profiadau dilys.
"Lle gwell na dod i'n cadeirlannau neu eglwysi neu ar deithiau crefyddol fel bod pobl yn gallu gweld hanes ein crefydd."
Prif gamau Cynllun Gweithredu Croeso Cymru ar Dwristiaeth Ffydd i'w cymryd yn y tymor byr fydd:
1. Datblygu deunydd i hyrwyddo addoldai ac ati ac integreiddio twristiaeth ffydd o fewn ymgyrchoedd marchnata Croeso Cymru.
2. Rhoi gwybodaeth am Dwristiaeth Ffydd ym mhecynnau ar-lein Croeso Cymru ar gyfer busnesau.
3. Datblygu Llwybr Cerdded y Pererin ar draws y de i Dyddewi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Awst 2011