Cyngor yn erbyn chwalu stiwdios

Mae cynghorwyr wedi gwrthod cynlluniau i chwalu stiwdios ITV Cymru yng Nghroes Cwrlwys yng Nghaerdydd.

Roedd cynnig i godi 243 o dai ar y safle.

Yn Awst cyhoeddodd ITV Cymru y bydden nhw'n symud i'r bae yn 2014.

Roedd swyddogion Bro Morgannwg wedi cymeradwyo'r cynlluniau i godi tai.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor cynllunio y Cynghorydd Frederick Johnson: "Mae hwn yn ddiwrnod trist."

Straeon perthnasol