Arweinydd Ceidwadwyr: Llai o wyliau i ACau?

  • Cyhoeddwyd

Dylai Aelodau'r Cynulliad gael llai o wyliau ac fe ddylid cynnal cyfarfod ychwanegol bob wythnos "er mwyn byrstio swigen Bae Caerdydd" er mwyn gwneud gweithgaredd y Cynulliad yn fwy perthnasol i'r cyhoedd yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad.

Mae Mr Davies hefyd wedi dweud wrth BBC Cymru y dylai arolwg manwl gael ei gynnal o'r modd y mae'r Cynulliad yn gweithredu.

Ar hyn o bryd dim ond ar brynhawniau Mawrth a Mercher y mae yna gyfle i Aelodau'r Cynulliad holi gweinidogion a phasio deddfwriaeth.

Mae Mr Davies yn awgrymu ei bod hi'n bosibl cynnal cyfarfod ychwanegol ar foreau Iau.

Ond mae'n credu ei bod hi'n rhy gynnar ar hyn o bryd i ystyried cynyddu nifer Aelodau'r Cynulliad o'r 60 presennol.

"Mae yna fwy y gellir ei wneud gyda'r nifer presennol ac mae angen i ni gael hynny'n iawn yn gyntaf "

Cafodd y Cynulliad doriad o ddeng wythnos dros yr haf, a phum wythnos ers iddyn nhw ddychwelyd i Fae Caerdydd, mae ACau ar fin cael toriad o wythnos ar gyfer hanner tymor.

Mae Mr Davies yn cydnabod bod y gwaith y mae aelodau yn ei wneud yn eu hetholaethau a'r rhanbarthau yn holl bwysig ac nad yw dod o hyd i gydbwysedd yn waith hawdd.

"Mi fyddai pawb yn cytuno bod ymrwymiad y cyhoedd gyda sefydliad democrataidd Cymru yn bryderus o isel. Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau Cynulliad o bob plaid yn dod ynghyd i ystyried sut y gallwn ni fyrstio swigen Bae Caerdydd".