Cystadlaethau rygbi Ewrop: Cam ymlaen?
- Cyhoeddwyd

Mae cynnydd wedi ei wneud "ar nifer o faterion" yn y trafodaethau ynghylch cystadlaethau clwb Ewropeaidd, yn ôl y cymodwyr annibynnol.
Wedi cyfarfod deuddydd yn Nulyn, ble roedd cynrychiolwyr undebau Cymru, Lloegr, Iwerddon, Yr Alban, Ffrainc a'r Eidal yn bresennol, cafwyd datganiad yn cadarnhau bod yna gonsensws dros gael dwy gystadleuaeth Ewropeaidd, gydag 20 tîm ym mhob un, gyda phosibilrwydd o drydydd digwyddiad hefyd.
Doedd prif glybiau Lloegr a Ffrainc ddim yn rhan o'r trafodaethau wrth iddyn nhw fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer Cwpan Pencampwyr newydd y tymor nesaf a fyddai'n disodli'r cystadlaethau cwpanau Heineken ac Amlin.
Dywed Undeb Rygbi Cymru eu bod yn parhau yn hyderus ynglŷn â dyfodol cystadlaethau rygbi Ewropeaidd.
Er hynny mae swyddogion yr undeb wedi dweud nad ydi hi'n ddoeth ar hyn o bryd i ddatgelu rhagor o fanylion am y trafodaethau sydd wedi eu cynnal dros yr wythnosau diwethaf, tra bod cynrychiolwyr yn dal i geisio cyrraedd cytundeb.
Tra bod yr ansicrwydd yn parhau, mae'r undeb wedi cytuno i helpu'r rhanbarth.
Ar ôl y cyfarfod yn Nulyn, dywedodd Roger Lewis, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru:
"Rydw i am ei gwneud hi'n glir i'n chwaraewyr ni bod gennym ni bob hyder yn y gêm ar y lefel uchaf yma yng Nghymru.
"Mae hi'n bwysig bod unrhyw chwaraewr sy'n ystyried ei ddyfodol ar hyn o bryd i ddeall yn llawn faint o gefnogaeth y mae'r Undeb yn barod i'w gynnig."
Er nad oedd Mr Lewis yn barod i fanylu am y trafodaethau ynglŷn â dyfodol y cystadlaethau Ewropeaidd, dywedodd ei bod hi'n bwysig fod meddyliau'r chwaraewyr yn cael eu tawelu er mwyn iddyn nhw gael rhoi eu holl sylw ar gemau rhyngwladol Cymru yn yr wythnosau nesaf.
Mewn datganiad yn Nulyn brynhawn Iau dywedodd Graeme Mew a Stephen Dymer, y ddau gymodwr annibynnol sydd wedi bod yn cynnal y trafodaethau, fod yna gonsensws erbyn hyn ar nifer o faterion allweddol yn ymwneud â'r gystadleuaeth newydd gan gynnwys fformat y gystadleuaeth newydd a sut i rannu arian.
Mae'r cynrychiolwyr wedi cytuno mewn egwyddor i barhau gyda dwy gystadleuaeth - y ddwy yn cynnwys 20 o glybiau. Fe fyddai'r brif gystadleuaeth yn cynnwys 6 clwb yr un o Uwchgynghrair Lloegr, y PRL; a phrif gynghrair Ffrainc, yr LNR; a 7 o'r Pro12.
Mi fydd y cynrychiolwyr yn cyfarfod eto i drafod y manylion ar ddydd Gwener Tachwedd 1.