Gwahardd Mike Phillips

  • Cyhoeddwyd
Mike Phillips
Disgrifiad o’r llun,
Mae Bayonne wedi gwahardd mewnwr Cymru Mike Phillips

Mae dyfodol mewnwr Cymru Mike Phillips yn anicr iawn ar ôl i glwb Bayonne ei wahardd am gyfnod amhenodol.

Roedd adroddiadau bod y mewnwr wedi ymddangos yn feddw mewn sesiwn ddadansoddi fideo ar Hydref 11.

Mae adroddiadau yn Ffrainc yn awgrymu bod y mewnwr 31 oed wedi cael ei ddiswyddo ond dyw swyddogion Bayonne ddim wedi cadarnhau hynny.

Fydd Phillips, sydd wedi ennill 77 o gapiau dros ei wlad, ddim yn cael ei gosbi gan Warren Gatland, hyfforddwr Cymru.

Mae dau chwaraewr arall - yr wythwr Dwayne Haare a'r maswr Stephen Grett - wedi cael eu dirwyo.

Ond mi fyddan nhw yng ngharfan Bayonne yn erbyn Montepllier nos Wener.