Hybu'r Gymraeg yn y Gogledd-Ddwyrain
- Cyhoeddwyd

Bydd Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws yn annerch cynhadledd iaith yn Sir Ddinbych ddydd Gwener
Bydd cynhadledd yn cael ei chynnal yn Sir Ddinbych ddydd Gwener i drafod sut i sicrhau ffyniant yr iaith yn y Gogledd Ddwyrain.
Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, fydd yn dechrau'r diwrnod gydag anerchiad yn trafod sut y gall prosiectau iaith lleol gydweithio gyda hi i sicrhau rhagor o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg.
Bydd y thema o gydweithio yn parhau trwy'r gynhadledd, gyda gweithdai ar gynllunio ieithyddol a phrosiectau cymunedol.
Dywedodd Gill Stephen, un o drefnwyr y gynhadledd:
"Mi fydd yn gynhadledd arloesol ac yn gyfle unigryw i drafod dyfodol llewyrchus i'r iaith Gymraeg.
"Rydym yn gwerthfawrogi presenoldeb rhywun o statws Comisiynydd y Gymraeg, ac yn obeithiol bydd y gynhadledd yn sbarduno trafodaeth fywiog ac adeiladol."