HS2: Arian ychwanegol yn dod i Gymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r Trysorlys wedi cadarnhau y bydd Cymru'n derbyn degau o filiynau o bunnoedd o gyllid ychwanegol o ganlyniad i gynllun rheilffordd HS2.
Yn wreiddiol fe wnaeth y Trysorlys wadu cyhoeddiad y Gweinidog Cyllid Jane Hutt y byddai Cymru'n derbyn arian ychwanegol yn deillio o'r cynllun yn 2015.
Ond dydy'r £35m sydd wedi ei addo ar gyfer y flwyddyn honno ddim wedi ei warantu trwy gydol y cynllun, ac yn ei ddatganiad, mae'r Trysorlys yn awgrymu y gallai'r fformiwla gyllido newid yn y dyfodol.
Yn ôl gweinidogion Llywodraeth y DU, bydd cynllun HS2 o fudd i'r DU yn ei chyfanrwydd, ac felly ddylai'r gwledydd datganoledig ddim cael y taliadau ychwanegol sydd fel arfer yn ddyledus yn sgîl cynlluniau trafnidiaeth yn Lloegr.
Bydd y dosraniad ar gyfer 2015 yn rhoi pwysau ar y Trysorlys i gynnal y taliadau gydol y degawd nesaf, ac fe allai hynny olygu hyd at £2 biliwn ar gyfer y gyllideb Gymreig.
Ond mae gan y Canghellor ddisgresiwn i newid y fformiwla gyllido, sy'n golygu y gallai'r trefniant gael ei newid yn y dyfodol i eithrio taliadau ychwanegol ar gyfer Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: "Yn y rownd wariant ym mis Mehefin, derbyniodd Llywodraeth Cymru ddosraniad cyfalaf o £84.5m. Roedd hyn yn seiliedig ar gynnydd o £2 biliwn yng nghyfanswm cyllideb gyfalaf yr Adran Drafnidiaeth.
"Cafodd hyn ei gyfrifo trwy fformiwla Barnett gan ddefnyddio'r fframwaith a osodwyd yn Adolygiad Gwariant 2010, sef bod 73.1% o'r newidiadau yng ngwariant yr Adran Drafnidiaeth yn golygu taliadau canlyniadol Barnett ar gyfer Llywodraeth Cymru.
"Mae disgwyl y bydd y fformiwla'n cael ei diweddaru yn yr Adolygiad Gwariant llawn nesaf, sy'n arferol, a bydd yn adlewyrchu'r wybodaeth ddiweddaraf ar wariant adrannol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn falch fod y sefyllfa bellach yn eglur."
Straeon perthnasol
- 23 Hydref 2013
- 19 Hydref 2013
- 6 Mawrth 2013