Port Talbot yn arwyddo Bauza
- Cyhoeddwyd

Mae'r Sbaenwr Guillem Bauza wedi ymuno gyda chlwb Port Talbot yn Uwchgynghrair Cymru o Gaerwysg.
Cyn ymosodwr Abertawe yw'r Sbaenwr cyntaf i ymuno gyda'r clwb.
Os fydd yn cael trwydded ryngwladol mewn pryd, mae disgwyl iddo chwarae ei gêm gyntaf i'r clwb yn erbyn Bangor ddydd Sadwrn.
Chwaraeodd Bauza 49 o gemau i Abertawe rhwng 2007 a 2010 gan sgorio naw gôl wedi iddo gael ei arwyddo gan y rheolwr ar y pryd, Roberto Martinez.
Fe sgoriodd bedair gôl mewn pum gêm tua diwedd tymor 2007-08 i sicrhau dyrchafiad i'r Elyrch o Adran Un o'r bencampwriaeth.
Dywedodd prif weithredwr Port Talbot Andrew Edwards: "Mae'n gaffaeliad cyffrous i'r clwb ac i Uwchgynghrair Cymru.
"Rydym wedi gwirioni ein bod wedi medru dod â chwaraewr o safon Guillem Bauza i Bort Talbot."
Aeth Bauza i Abertawe o glwb Espanyol, ac mae cyn chwaraewr tîm ieuenctid Sbaen wedi cael cyfnodau gyda Henffordd a Northampton ers gadael y Liberty.