Yr aros bron ar ben
- Cyhoeddwyd

Fe fydd sylw'r byd rygbi 13 ar Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn ar gyfer seremoni, a dwy gêm, agoriadol Cwpan y Byd 2013.
Mae Cymru yn un o'r gwledydd sy'n cynnal y gystadleuaeth ar y cyd eleni.
Ymhlith y perfformwyr yn y seremoni agoriadol am 1:20pm ddydd Sadwrn fydd y delynores fyd enwog Catrin Finch.
Llysgennad Cwpan Rygbi 13 y Byd 2013 yw cyn gefnwr Cymru Gareth Thomas, ac fe fydd yn ymuno â 50 o ddawnswyr proffesiynol fel rhan o'r seremoni.
Mae dawns yn chwarae rhan amlwg ar y diwrnod ac fe fydd rhai o gyn-gystadleuwyr rhagen Strictly Come Dancing yn ymddangos, gan gynnwys y cyflwynydd Gethin Jones.
Fe fydd y cyfan yn damaid i aros pryd i gefnogwyr y gamp, ac am 2:30pm fe ddaw gêm agoriadol y gystadleuaeth rhwng dau o'r ffefrynnau - Lloegr ac Awstralia.
Bydd gêm agoriadol Cymru yn erbyn yr Eidal yn dilyn am 4:30pm.
'Digwyddiad nodedig arall'
Un fydd yn bresennol yw'r Prif Weinidog Carwyn Jones, a dywedodd: "Rwy'n falch iawn o gael chwarae rhan yn y seremoni agoriadol yn Stadiwm y Mileniwm - dyma'r unig bryd y bydd pob un o'r 14 o wledydd sy'n cymryd rhan yn uno yn ystod Cwpan y Byd.
"Bydd y ddwy gêm yn Stadiwm y Mileniwm yn ddigwyddiad nodedig arall i Gymru yn ystod y twrnament hwn.
"Bydd gemau hefyd yn digwydd mewn lleoliadau eraill yng Nghymru, gan sicrhau bod manteision y digwyddiadau i'w gweld ledled y wlad.
"Bydd Cwpan y Byd yn gyfle i ni gyd weithio gyda'n cymunedau lleol, a bydd gobeithio yn annog pobl o bob oedran a gallu i chwarae'r gamp.
Mae'r digwyddiad yn un arall mewn cyfnod prysur dros ben i Gaerdydd gan fod Gŵyl Womex hefyd yn cael ei chynnal yn y brifddinas ar hyn o bryd.
Cynhaliwyd cystadleuaeth 2008 yn Awstralia, ac fe'i cynhaliwyd yn y DU yn 2000.