Cytundebau newydd gyda Morgannwg

Murray Goodwin Image copyright Getty Images
Image caption Mae un o ser y tymor diwethaf, Murray Goodwin, wedi cytuno i aros am dymor arall gyda Morgannwg

Mae tîm criced Morgannwg wedi cyhoeddi bod chwe chwaraewr wedi arwyddo cytundebau newydd gyda'r clwb.

Bydd y batiwr Murray Goodwin o Zimbabwe yn aros am dymor arall.

Mae pum chwaraewr a ddaeth drwy system ieuenctid Morgannwg hefyd yn aros gyda'r sir ar gytundebau dwy flynedd.

Y pump yw'r batwyr Ben Wright, Will Bragg a David Lloyd, y troellwr Andrew Salter a'r chwaraewr amryddawn Ruaidhri Smith.

Yn y flwyddyn newydd fe fydd Hugh Morris yn dechrau ar ei swydd newydd fel prif weithredwr a chyfarwyddwr criced Morgannwg, a dywedodd:

"Yn dilyn y newyddion da yn ddiweddar bod Mark Wallace a Dean Cosker wedi ymrwymo i aros gyda'r sir, mae'n wych gweld talent addawol o dde a gogledd Cymru yn ymestyn eu gyrfaoedd gyda Morgannwg.

"Rwy'n credu mai'r allwedd i lwyddiant yw datblygu ein talent ein hunain.

"Roeddwn i'n ffodus iawn i chwarae i Forgannwg pan oedd asgwrn cefn y tîm yn Gymry, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf ganolbwyntio arno gyda'r prif hyfforddwr a thîm hyfforddi newydd yma."