Carcharu dyn am ladd ei fab

  • Cyhoeddwyd
Joshua Reece DaviesFfynhonnell y llun, SW Police
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Joshua Reece Davies ym mis Mawrth eleni

Mae dyn o Gaerdydd wedi cael ei garcharu am ladd ei fab ei hun wedi ffrae feddw.

Roedd Neil Davies, 53 oed, wedi trywanu ei fab Joshua, 24 oed, wrth i'r ddau ddadlau oriau wedi buddugoliaeth tîm rygbi Cymru dros Loegr yn gynharach eleni.

Yn Llys y Goron Caerdydd cafodd Davies ei garcharu am bum mlynedd wedi i'r erlyniad dderbyn ple o ddynladdiad.

Clywodd y llys bod yr ergyd gyda chyllell wedi bron â thorri drwy dwy wythïen a bod Joshua wedi marw er gwaethaf ymdrechion yr heddlu a pharafeddygon.

Roedd y ddau wedi bod yn yfed am bron 12 awr yn nhafarn y Cross Inn a Chlwb y Lleng Brydeinig yn Nhredelerch yng Nghaerdydd wrth wylio'r gêm rygbi.

Wyneb

Gwelwyd y ddau yn gwthio'i gilydd ac yn dadlau ar gamera cylch cyfyng wrth iddyn nhw adael am adre yn Llanrhymni.

Clywodd y llys hefyd fod Joshua, oedd yn focsiwr amatur chwe troedfedd o daldra, wedi taro ei dad yn ei wyneb.

Roedd y tad wedi mynd i gegin eu cartref i wneud brechdanau ac roedd y mab wedi ei ddilyn.

Dywedodd David Aubrey wrth amddiffyn Davies: "Mae Neil Davies yn bendant nad oedd wedi arfogi ei hun gyda chyllell ond yn derbyn ei fod wedi chwifio'r gyllell er mwyn rhwystro Joshua.

"Roedd yn difaru yn syth. Mae hyn yn rhywbeth y bydd rhaid iddo fyw gydag ef am weddill ei oes."

Roedd cymydog mewn fflat gerllaw wedi clywed y tad yn gweiddi: "Mae'n marw ... beth ydw i wedi 'i wneud?" yn syth wedi'r ymosodiad.

Wrth ddedfrydu Davies dywedodd y Barnwr Eleri Rees fod gan y ddau berthynas agos ond ymfflamychol.

"Roedd y ddau ddyn wedi bod yn yfed yn drwm ac roedd Joshua wedi dechrau ymddwyn yn fygythiol.

"Mae'r diffynnydd wedi ymddwyn yn anghyfreithlon a diofal."