Dirwy o £90,000 wrth i weithwyr golli braich

  • Cyhoeddwyd
HSE logoFfynhonnell y llun, HSE

Mae cwmni ailgylchu wedi cael dirwy o £90,000 wedi i weithiwr golli braich mewn damwain oedd "yn anochel".

Cafodd Neath Port Talbot Recycling orchymyn i dalu costau o £50,000 wedi'r ddamwain yn 2011.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod damwain debyg wedi bod yn 2007 a thros y blynyddoedd bod y cwmni wedi cael rhybuddion am eu mesurau iechyd a diogelwch.

Dywedodd y cwmni eu bod yn difaru'r hyn ddigwyddodd i'r gweithiwr Stephen John.

Glanhau offer

Clywodd y llys bod y gweithiwr 57 oed wedi cael cais i lanhau belt cludo oedd wedi ei orchuddio â hylif gludiog o'r enw "flack".

Doedd gan y cwmni ddim asesiad risg na system ddiogel ar gyfer cwblhau'r gwaith ac roedd gweithwyr profiadol fel Mr John wedi datblygu eu ffordd eu hunain o lanhau'r belt.

Cafodd y system ei dyfeisio yn rhannol gan fod y switsh rheoli wedi ei osod yn bell i fwrdd o'r belt cludo ei hun.

Er mwyn glanhau'r offer roedd un gweithiwr yn sefyll wrth ymyl y switsh tra bod y llall yn crafu'r "flack" o'r offer cyn ei dynnu allan gyda'i fraich.

Ar ddiwrnod y ddamwain roedd Mr John wedi rhoi ei fraich yn y peiriant ond roedd y gweithiwr arall wedi camddehongli hynny fel arwydd i aildanio'r belt.

Cafodd braich dde Mr John ei ddal yn y peiriant a'i thorri i ffwrdd.

'Risg adnabyddus'

Wedi'r gwrandawiad dywedodd Sarah Baldwin-Jones o'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch fod potensial o fwy o niwed neu hyd yn oed ddamwain angheuol.

"Roedd y cwmni wedi methu gosod canllaw o amgylch pen y peiriant ac oherwydd hyn roedd gweithwyr yn medru cael mynediad i rannau peryglus o'r peiriant.

"Mae'r risg yma yn adnabyddus yn y diwydiant ac fe ddylai'r cwmni fod wedi cymryd camau i osod canllawiau.

"Hefyd doedd Mr John ddim yn gallu gweld y gweithiwr oedd yn rheoli'r peiriant a doedd y cwmni heb gynnal asesiad risg pan gafodd y peiriant ei osod."

Plediodd Neath Port Talbot Recycling yn euog i ddau gyhuddiad o dorri rheolau diogelwch.

Dywedodd rheolwr y cwmni Will Watson wrth BBC Cymru fod y cwmni'n difaru'r hyn ddigwyddodd a bod materion yn y ffatri bellach wedi cael eu datrys.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol