Rali yn erbyn 'treth ystafell wely'

  • Cyhoeddwyd
Teulu
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r polisi wedi ei chyflwyno ers mis Ebrill

Mi fydd rali yn cael ei chynnal yn ddiweddarach er mwyn gwrthwynebu'r newidiadau i fudd-daliadau tai.

Ers mis Ebrill mae'r polisi gan Lywodraeth San Steffan wedi dod i rym, ond mae rhai yn teimlo bod y newid yn annheg.

Mae'r polisi yn golygu bod tenantiaid sydd ag ystafell sbâr yn eu tai yn cael eu hannog i symud i dŷ llai neu eu bod yn derbyn llai o fudd-dal.

Cafodd hyn ei enwi'n 'dreth ystafell wely' gan y rhai sy'n gwrthwynebu'r polisi.

Bydd yr orymdaith yn cychwyn am 1.00pm tu allan i neuadd y ddinas yng Nghaerdydd ac mae'r trefnwyr yn dweud bod nifer o fudiadau megis Shelter Cymru, undeb UNITE a Tenantiaid Cymru yn cefnogi'r digwyddiad.

Ymhlith y siaradwyr y bydd y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi Vaughan Gething, yr Aelodau Cynulliad Bethan Jenkins a Mick Antoniw, a chynrychiolwyr o'r asiantaethau tai a'r Eglwys yng Nghymru.

'Penderfyniadau ofnadwy'

Dangosodd adroddiad diweddar gan Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan bod nifer y bobl yng Nghymru sydd yn hawlio budd-daliadau tai wedi cynyddu yn ystod y pum mlynedd.

Mae tua 8% o'r boblogaeth yn derbyn yr arian yng Nghymru, sydd yn 250,000 o bobl.

Roedd yr adroddiad hefyd yn dweud mai pobl Cymru sydd yn cael eu heffeithio fwyaf efo'r newidiadau i'r budd-dal.

Yn ôl Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan mae'r dreth yn cosbi'r bobl fwyaf bregus yn y gymdeithas.

"Maen nhw'n cael ei gorfodi i wneud penderfyniadau ofnadwy. Maen nhw'n gorfod dewis naill ai'n talu arian ychwanegol - sydd ddim yn rhywbeth maen nhw'n gallu fforddio gwneud - neu symud o'u cartrefi ac mae'n debygol o'u cymuned.

System decach

"Maen nhw'n gorfod delio wedyn efo effaith hyn ar y teulu cyfan. Ar gyfer nifer dydy o ddim hyd yn oed yn opsiwn achos does 'na ddim tai eraill ar gael iddyn nhw allu symud."

Ond mae Llywodraeth San Steffan yn dweud bod yna filoedd o bobl yn disgwyl i gael tai a bod y polisi yn mynd i arbed £480 miliwn y flwyddyn, gyda £30 miliwn o hwnnw'n dod o Gymru.

Ei dadl nhw ydy bod y newidiadau yn gwneud y system fudd-daliadau yn decach.